Digwyddiadau

Mercher 14 Mai 08
CBS Merthyr Tudful: Noson ’Cerdd a Chwrw’ - Noson Farddoniaeth Agored ar y Meic gyda Dewi Prysor.  7:30pm yng Ngwesty’r Imperial, Merthyr Tudful.  Mynediad am Ddim.  Am ragor o wybodaeth cysylltwch â arts@merthyr.gov.uk / gus.payne@merthyr.gov.uk / 01685 725382.


Mawrth 20 Mai 08 - Gwener 23 Mai 08
Theatr Genedlaethol Cymru: Siwan gan Saunders Lewis.  Cyflwyniad cyfoes o un o ddramâu mawr yr iaith Gymraeg.  Siwan - merch i frenin Lloegr, a gwraig i dywysog Cymru; roedd ei dyfodol wedi’i benderfynu drosti.  Yna daeth llanc ifanc nwydwyllt i’w chartref, ac fe ddewisodd hi ei wahodd i stafell wely ei g?r.  Cynhyrchiad newydd o ddrama swynol am gariad, chwant a maddeuant wedi’i lleoli yn llys canoloesol Llywelyn Fawr.  7.30pm yn Theatr y Sherman, Caerdydd.  Prisiau: £14/£12, Dan 19: £8.  Archebwch ar lein nawr: www.shermancymru.co.uk/performance/drama-cy/siwancy/ neu ffoniwch Swyddfa Docynnau’r Sherman 029 2064 6900.  Bydd Trafodaeth Wedi-Sioe ar 22 Mai.


Iau 22 Mai 08
’Beirdd yn y Bar’ - Y Dynion Caeth v Y Merched Rhydd; sef Eurig Salisbury, Hywel Griffiths, Osian Rhys Jones, Rhys Iorwerth, Catrin Dafydd, Ceri Elen, Lois Barrar a Mari Sion.  8:00pm yn Dempseys, Caerdydd.  Tocynnau: £5 ymlaen llaw neu £6 wrth y drws (ar gael gan Glenys: 07970 411 697 neu Menter Caerdydd: 029 2056 5658).  Yr Elw at Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Glenys Llewelyn: glenys.llewelyn@sky.com / 07970 411 697.


Llun 26 Mai 08
Llyfr y Flwyddyn 2008Academi: Lansio Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2008.  Yng Ngŵyl y Gelli.  Rhagor o fanylion i ddilyn.


Iau 12 Mehefin 08
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Merthyr Tudful: Noson Agored ar y Meic gyda Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru.  Cerddi a pheintiau gyda Gillian Clarke ac eraill.  7:30pm yng Ngwesty’r Imperial, Stryd Fawr, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UH.  Mynediad am ddim.  Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Adran Datblygu’r Celfyddydau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Canolfan Dinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN; 01685 725382; arts@merthyr.gov.ukNoddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Mawrth 1 Gorffennaf 08
Llyfr y Flwyddyn 2008Academi: Seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2008.  Gwesty’r Hilton, Caerdydd.  Rhagor o fanylion i ddilyn.


Mawrth 8 Gorffennaf 08
Academi yng Nghanolfan y Mileniwm: Llên Llydaw.  Ymweliad gan y bardd o Lydaw, Eve Lerner, a fydd yn rhannu llwyfan â beirdd o Gymru fel rhan o daith o amgylch y wlad.  Mae Eve Lerner yn gyfieithydd ac yn fardd, ac mae wedi ysgrifennu tua 30 o lyfrau, cyfrannu at y cylchgrawn Llydaweg Hopala!, ac hefyd yn gyfrifol am ganolfan barddoniaeth a chelf L’Autre Rive yn Lorient.  7.00pm yn Ystafell Siapan, Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd.  Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Academi: post@academi.org / 029 2047 2266.


Llun 4 Awst 08
Tŷ Newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Fe fydd Tŷ Newydd, ar y cyd â’r Academi, yn cynnal noson o farddoniaeth a cherddoriaeth ym MaesC.  Manylion i’w cadarnhau.  Tŷ Newydd: 01766 522811 / post@tynewydd.orgwww.tynewydd.org.


Gwener 8 Awst 08
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008, MaesC: Y Stomp fawreddog!  A fydd y Stompfeistr yn llwyddo i gadw trefn ar yr un bardd ar bymtheg a fydd yn cystadlu am y stôl fach bren?  Cofiwch archebu’ch tocynnau o flaen llaw, gan y bydd galw mawr am y rhain.  Manylion i’w cadarnhau maes o law.  Am ragor o fanylion am weithgareddau Maes C cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org neu’r Eisteddfod: 0845 122 2003 / 0845 122 1176.


Iau 18 Medi 08
Cylch Cinio Merched Caerdydd: Sgwrs gyda Tudur Dylan.  Yng Nghlwb Golff Radur.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Marian Evans: 029 20843275.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).