 |
Prif Weithredwr Academi
Peter Finch
Mae
Peter Finch yn fardd, beirniad, awdur storïau byrion ac entrepreneur
llenyddol sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae'n defnyddio ffurfiau traddodiadol
ac arbrofol. Mae ei waith yn cynnwys Poems For Ghosts (Seren),
Antibodies (Stride), Useful (Seren) a Food (Seren). Bydd Real
Cardiff, sef golwg o'r newydd ar brifddinas Cymru, yn ymddangos
ddiwedd 2002.
Am flynyddoedd lawer bu Finch yn rhedeg siop lyfrau
arbenigol Cyngor Llyfrau Cymru, Oriel. Cyn hynny, roedd yn gyhoeddwr
bychan, ac yn golygu'r cyfnodolyn barddoniaeth rhyngwladol arloesol,
second aeon. Ar hyn o bryd ef yw Prif Weithredwr Academi, Asiantaeth
Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Awduron Cymru.
|
 |