Cerdd Fawr Caerdydd
Great Cardiff Poem
Mwy am y Gerdd - About the Poem
Darllen y Gerdd - Read the Poem
Rheolwr y Proiect - Project Manager
Prif Weithredwr Academi - Academi Chief Executive
Anfonwch Eich Cerdd -  Submit your poem
Rhestr o gyfranwyr - List of Contributors
Hafan yr Academi - Academi Homepage
Cysylltiadau - Links
academi logo
BT logo
Cardiff - European Capital of Culture

Dyluniwyd y wefan gan trAce

Mwy am y Gerdd


Mae Cerdd Fawr Caerdydd / The Great Cardiff Poem yn rhywbeth na fuodd mo'i debyg erioed yn y byd! Does dim un ddinas wedi ysgrifennu a chyhoeddi ei cherdd gymunedol enfawr ei hun cyn hyn.

Peter Finch

Mae'r cynllun, sef syniad y Prif Weithredwr Peter Finch, o dan arweiniad yr Academi, ac mae'n cael ei reoli gan yr awdur a'r darlithydd Susan Richardson. Bellach mae Cerdd Fawr Caerdydd ar y gweill er mwyn cefnogi cais Caerdydd i fod yn Brifddinas Diwylliant Ewrop yn 2008. Diolch i nawdd hael gan Telecom Prydeinig, mae cerdd epig sy'n adlewyrchu a dathlu gorffennol, presennol a dyfodol y ddinas yn cael ei chreu.

Yn ystod yr ychydig fisoedd a aeth heibio, buodd Susan yn rhedeg gweithdai ysgrifennu creadigol mewn amrywiaeth eang o gymunedau ledled Caerdydd. Buodd yn cynnig sesiynau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, cartrefi i'r henoed, hospisiau, yn Sefydliad Pobl Ddall Caerdydd a Chelfyddydau Anabledd Cymru. Mae plant mor ifanc â 3 oed wedi ysgrifennu barddoniaeth am y ddinas, ac mae'r hynaf i gyfrannu hyd yn hyn yn 96 oed. Mae cerddi wedi eu cyflwyno yn Saesneg, Cymraeg, ac yn ieithoedd holl gymunedau eraill Caerdydd.

Yn ogystal â chynnwys gwaith pobl sy'n ysgrifennu barddoniaeth am y tro cyntaf, mae'r cynllun hefyd yn cynnwys gwaith nifer o feirdd proffesiynol profiadol. Mae beirdd fel Dannie Abse, Gillian Clarke, Sheenagh Pugh, Ifor Thomas, Mererid Hopwood a Grahame Davies wedi cael eu comisiynu i ysgrifennu darn newydd am y ddinas.

Glenys Kinnock with Susan Richardson

Ar hyn o bryd mae Susan wrthi'n brysur yn golygu'r cannoedd o gerddi a dderbyniwyd i'w troi'n un gerdd enfawr am Gaerdydd. Bydd tameidiau o'r gwaith wedyn yn cael eu cyhoeddi ledled Caerdydd - ar fysus, llochesi bysus, crysau-t, posteri, mygiau a baneri. Bydd darlleniadau a pherfformiadau cyhoeddus yn digwydd a bydd llyfr yn cynnwys Cerdd Fawr Caerdydd i gyd yn cael ei gynhyrchu.

I gloi, mae'r wefan hon sy'n newid o hyd, lle gallwch ddarllen darnau o'r Gerdd ac edrych ar y rhestr o gyfranwyr sy'n tyfu fwyfwy.

 

Ffotograffau gan Kiran Ridley / ethos
gyda diolch i Gaerdydd 2008 am ddefnydd o'r lluniau
ac i Ganolfan Mileniwm Cymru am y lluniau amrywiol yn y stribed