 |
Read the Poem
Mae'n Hydref, a lliw efydd
yw'r dail ar strydoedd Caerdydd,
dail brown yn crensian canu
eu tiwn ar y palmant du.
Hydref o hyd, a'r haf aur
ymhell, rhywle ym mhyllau'r
graig, mor wag ac ar agor
â chragen las, mas fel y môr
ar drai, daeth tymor y dref
a'i ddadrith - galwodd Hydref.
Mor wag yw Pontïago
a mi'n y dre, cartre'r co
yw'n unig, dim ond enw,
a mi'n un ohonyn 'nhw'.
Adre wir? Wrth fynd am dro
haul hiraeth sy'n disgleirio'n
Llandaf, ac wrth i'r afon
yn ddawns hardd trwy'r ddinas hon
fy hudo, gwelaf wedyn
fy nhref i, fy nhir fy hun,
ac o'i weld daw dagrau'r gwir
i halltu fesul milltir
y daith hyd strydoedd Caerdydd:
fe hawliaf ei heolydd.
Heno dal i bendilio
wnaf i o raid rhwng dwy fro,
yn yr iaith na fedr un,
yn eithriad yn ddieithryn.
Ond nid ar goll yn hollol -
mae 'na ran mi wn ar ôl,
rhyw ran fach o'r hyn wyf i
yn aros mewn dwy stori.
|
 |