Read the Poem
Liw nos yng Nghaerdydd tryd i wrando
ar leisiau sibrydion y stryd
yn siarad wrth iddynt freuddwydio
am weled gwawr newydd i'w byd.
Cei wrando ar lais dinasyddion
yn uno â llais cefn gwlad
yn siarad yn daer am obeithion,
am fory, am ddyfalbarhad.
Rhyw son mae'r sibrydion yn dawel,
mewn ieithoedd sy'n mynnu a bod,
am newid yng nghyffro yr awel
am Gymru sydd eto i ddod.
A heno'n y Bae y mae lleisiau
hen ieithoedd yn cyrraedd y tir -
mae'r ddinas yn sibrwd storiau
a'r neges, fy nghyfaill, yn glir.
|