 |
Read the Poem
Mae'r haul uwch Bae Caerdydd ar ei anterth
ac mae Cwl Cymru'n toddi yn y gwres;
y Saabs heb do yn sgleinio, yn diflannu,
pob siwt tri-chan-punt yn diosg ei hun,
yn treulio fel dilledyn,
y sbectol haul Gucci yn gwingo,
yn fflachio'n ddim,
y ffonau symudol yn symud i ddifancoll,
y cardiau busnes yn cyfnewid dwylo â diddymdra,
y cwmnïau digidol yn pwyso'r botwm dileu;
pob platfform aml-gyfrwng,
pob prosiect rhyngweithiol,
pob menter rhithwir,
pob dot com yn tarthu'n derfynol,
gan adael
pob hunan heb gyrhaeddiad,
pob sylwedd heb ei ddelwedd
yn ddiamddiffyn yn yr heulwen braf,
galanas allanolion galan haf.
|
 |