Cerdd Fawr Caerdydd
Great Cardiff Poem
Mwy am y Gerdd - About the Poem
Darllen y Gerdd - Read the Poem
Rheolwr y Proiect - Project Manager
Prif Weithredwr Academi - Academi Chief Executive
Anfonwch Eich Cerdd -  Submit your poem
Rhestr o gyfranwyr - List of Contributors
Hafan yr Academi - Academi Homepage
Cysylltiadau - Links
academi logo
BT logo
Cardiff - European Capital of Culture

Dyluniwyd y wefan gan trAce

Rheolwr y Prosiect


Susan Richardson

Awdur a darlithydd yw Susan Richardson a fu'n byw ac yn gweithio ym maes ysgrifennu yng Nghanada, Awstralia a Seland Newydd cyn ymsefydlu yng Nghymru, lle cafodd ei geni a'i magu. Mae wedi cyhoeddi barddoniaeth, wedi ennill gwobrau am ei storïau byrion ac yn ddiweddar cyhoeddwyd ei drama farddonol, 'Two Of Me Now', yng nghyfres 'Bloomsbury Heritage Series'. Cyn ei chyhoeddi, perfformiwyd y ddrama hon yn y DU, Canada a'r Ffindir, gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig.

Mae Susan wedi bod yn awdur preswyl mewn nifer o fannau ac yn parhau i gynnal sesiynau tiwtora ysgrifennu creadigol mewn amrywiaeth fawr o leoliadau, gan gynnwys Prifysgolion ac ar lein. Mae hi hefyd wedi arwain gweithdai therapi ysgrifennu cyson ar gyfer pobl sy'n byw gyda chancr.