Gwasanaethau i Awduron

DATGANIAD I’R WASG 1 MEDI 2003

GWOBRAU A CHYFLEOEDD I AWDURON YNG NGHYMRU

O 1 Ebrill 1 2003 bydd yr Academi Gymreig, yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru, yn rhedeg ystod newydd o gynlluniau a ddarparwyd gynt gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC). Yn dilyn ei ailstrwythuro yn ddiweddar, trosglwyddwyd y rhan fwyaf o ddarpariaeth llenyddiaeth CCC i naill ai’r Academi (gwasanaethau awduron) neu’r Cyngor Llyfrau (grantiau i gyhoeddwyr). Ar ben y rhychwant o wasanaethau a chyfleoedd sydd ar gael yn barod, golyga hyn fod yr Academi bellach yn siop bopeth-dan-un-to i awduron sy’n byw yng Nghymru.

Bydd yr Academi’n gweinyddu cynlluniau nawdd a fydd yn cynnig pob math o gymorth i awduron o dan y cynllun Ysgoloriaethau Awduron. Mae yna bum gwahanol fath o ysgoloriaeth, o nawdd i ryddhau awduron o’u gwaith bob dydd, i brynu offer arbenigol i awduron anabl, neu gymorth tuag at waith ymchwil hanfodol. Yn ogystal, mi fydd ysgoloriaeth Irma Chilton ar gael ar gyfer awduron plant a phobl ifainc. Cynhelir y rownd gyntaf gyda’r panel yn penderfynu ym mis Rhagfyr 2003, ar gyfer ysgoloriaethau a ddyfernir o fis Ionawr 20054 ymlaen. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Hydref 30ain 2003.

Yn ogystal â chymorth ariannol i awduron, gall yr Academi gynnig cefnogaeth ymarferol. Bydd y Gwasanaeth Beirniadu Awduron a’r Cynllun Mentora yn cynnig cyngor a chyfleoedd mentora i awduron o bob safon yng Nghymru. Gall darpar-awduron gyd-weithio ag awduron mwy profiadol neu dderbyn cyngor ar sut i ail-ddrafftio gwaith. Yn ogystal, gall yr Academi gynnig cyngor ar faterion eraill yn ymwneud â’r broses ysgrifennu, megis hawlfraint, paratoi teipysgrifau a chyhoeddi.

Ar ben hyn, o 2004 ymlaen, yr Academi fydd yn gyfrifol am wobrau Llyfr y Flwyddyn, a wobrwyir i’r ddau lyfr gorau a gyhoeddir yn y ddwy iaith. Mae rhai o enillwyr y gorffennol yn cynnwys Grahame Davies, Owen Martell, Gwyneth Lewis, Bernice Rubens, Stevie Davies a Stephen Knight. Cyhoeddir yr enillwyr eleni fel rhan o ?yl y Gelli ym mis Mai.

Cysylltwch â’r Academi am fwy o wybodaeth.

Academi
 Prif Weithredwr - Peter Finch 
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ
Ffôn: 029 2047 2266      Ffacs: 029 2049 2930
post@academi.org

GWYBODAETH YCHWANEGOL

Dyma’r mathau o ysgoloriaethau a gynigir:

1. Ysgoloriaethau ar gyfer Awduron Newydd - fe’u cynigir i awduron rhagorol na chydhoeedwyd eu gwaith mewn cyfrol eisoes. Uchafswm: £10,000

2. Ysgoloriaethau ar gyfer Awduron Cyhoeddedig - cynigir y rhain i awduron sydd wedi cyhoeddi o leiaf un gyfrol o’u gwaith. Uchafswm: £10,000

3. Gwobr Irma Chilton - sefydlwyd y wobr hon i gofio cyfraniad yr awdur i lenyddiaeth plant. Mae ar gyfer awduron plant a phobl ifainc, yn Gymraeg neu yn Saesneg. Uchafswm: £10,000

4. Ysgoloriaethau ar gyfer Awduron Anabl - gall y rhain gynnwys, er enghraifft, nawdd ar gyfer:
i. prynu offer penodol
ii. cymorth tuag at gostau teithio arbennig
iii. cymorth ysgrifenyddol fel gwaith golygu, teipio ac argraffu ayb.
iv. cyfleoedd hyfforddi sy’n berthnasol i’r gwaith ysgrifennu
Gallwn ystyried ceisiadau eraill am gymorth mewn perthynas â gwaith ysgrifennu.
Uchafswm: £2,000

5. Y Gronfa Amryfal - cynigir symiau llai o arian fel cymorth tuag at brosiectau ysgrifennu penodol. Er enghraifft costau teithio, ymchwil, gwaith mewn ieithoedd eraill, gofal plant, llogi lle tawel i weithio ac yn y blaen. Nid oes grantiau cyfalaf (megis prynu cyfrifiadur) ar gael o’r gronfa hwn. Uchafswm: £2,000

Nodyn ychwanegol

Yr Academi yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth  a Chymdeithas Llenorion Cymru, a sefydlwyd ym 1959 gan Bobi Jones a Waldo Williams. Mae’r Academi yn gweithio gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.