Gwasanaethau i Awduron
DATGANIAD I’R WASG 18 CHWEFROR 2005
Arian yr Academi yn prynu cyfleoedd euraid i awduron Cymru
Ymchwilydd gwleidyddol, golygydd, dau Brifardd a ficer – Mae 26 awdur, deg ohonynt erioed wedi eu cyhoeddi o’r blaen, oll yn derbyn cyfran o £103,000 o bunnoedd gan yr Academi i’w hysgogi i ysgrifennu.
Bydd y dramodydd a’r Prifardd Aled Jones Williams yn teithio i Rwsia er mwyn ymchwilio ar gyfer ei nofel arfaethedig Ychydig Is Na’r Angylion: a caiff y Prifardd Jason Walford Davies – enillydd y Goron llynedd – ysgoloriaeth i encilio i Ynys Enlli i farddoni. Bydd yn gweithio ar gwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth fydd wedi’i hysbrydoli gan leoliadau o awryddocâd hynafol a hanesyddol sydd wedi gafael yn ei ddychymyg ers amser.
Yn ogystal â chefnogi llenorion sefydledig Cymru, mae nifer o awduron newydd ymhlith y rhai sy’n derbyn ysgoloriaeth i brynu amser o’u dyletswyddau bob dydd. Gall Catrin Dafydd, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel ymchwilydd i Blaid Cymru, neilltuo diwrnod yr wythnos dros y pum mis nesaf i weithio ar ei nofel gyntaf Antipasto Misto. Bydd Dyfrig Jones, sy’n gynhyrchydd rhaglenni dogfen, yn gosod cymeriadau ar bapur ac nid ar ffilm pan gaiff gyfnod i fynd ati i orffen ei nofel.
Ysgrifennu mewn cywair gwahanol fydd dau awdur arall sydd yn derbyn cefnogaeth gan yr Academi. Gall Siân Owen roi heibio’r cyfieithu a chanolbwyntio ar ei gwaith creadigol gwreiddiol a bwrw ati i ysgrifennu ei nofel Mân Esgyrn. Cynganeddu nid colofnau fydd yn cadw golygydd Golwg, Karen Owen, yn brysur am rai misoedd eleni. Mae’n bwriadu gorffen ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth yng nghyfnod ei hysgoloriaeth.
Ar yr ochr Saesneg mae Lloyd Jones yn derbyn ysgoloriaeth i ysgrifennu Mr Moreton, sef dilyniant i’w nofel gyntaf Mr Vogel, a dderbyniodd ganmoliaeth mawr llynedd. Cefnogir awduron sefydledig y byd llenyddol yn ogystal ac mae’r sylwebydd diwylliannol a’r beirniad celfyddydol Peter Lord yn derbyn ysgoloriaeth i ysgrifennu bywgraffiad anhygoel Winifred Coombe Tennant – swffragét a seicig a chefnogwr paentwyr ifainc Cymru,. Bydd y gyfrol hon yn ychwanegu at restr o gyhoeddiadau nodedig Peter Lord.
Mae rhestr o bob un a dderbyniodd ysgoloriaeth ynghlwm a bydd yr Academi yn falch o ddarparu rhagor o fanylion i newyddiadurwyr fydd am ysgrifennu erthyglau ar awduron fydd o ddiddordeb arbennig i’w darllenwyr.
Dyfernir Ysgoloriaethau yn flynyddol gan yr Academi a cheir manylion pellach ar ein gwefan www.academi.org.
Am ragor o fanylion cysylltwch â:
Academi, Prif Weithredwr Peter Finch, Tw Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart , Caerdydd, CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266 ffacs: 029 2049 2930
e-bost: post@academi.org gwefan: www.academi.org
Enillwyr Ysgoloriaethau i Awduron yr Academi 2005
Lloyd Jones – Conwy
Sian Owen – Ynys Môn
Paul Henry – Casnewydd
Kay Byrne – Abertawe
Eric Ngalle Charles – Caerdydd
Charlotte Greig – Caerdydd
Penny Simpson – Caerdydd
Peter Lord – Aberystwyth
Catrin Dafydd – Caerfyrddin
Gareth Pawan – Castell Nedd
Anne Cluysenaar – Brynbuga
Tôpher Mills – Caerdydd
Zoe Skoulding – Ynys Môn
Sean Burke – Caerdydd
Zoe Brigley – Caerffili
Tony Bianchi – Caerdydd
Philip Maillard – Dinas Powys
Deborah Kay Davies – Caerdydd
Lynda Nash – Trethomas
Jason Walford Davies – Bangor
Aled Jones Williams – Porthmadog
Dyfrig Jones – Bangor
Keri Finlayson – Abertawe
Meredith Knight – Wrecsam
James Rourke – Caerdydd
Karen Owen – Caernarfon
Bydd yr Academi yn falch o ddarparu rhagor o fanylion i newyddiadurwyr fydd am ysgrifennu erthyglau ar awduron fydd o ddiddordeb arbennig i’w darllenwyr a’u grandawyr.
Nodiadau golygyddol:
• Yr Academi yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru.
• Sefydlwyd yr Academi Gymreig ym 1959 yn sgil trafodaethau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams.
• Ym 1998 ymgymerodd y gymdeithas â maes llafur helaethach o lawer pan enillodd gytundeb Cyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu Asiantaeth Lenyddiaeth Genedlaethol.
• Mae’r Academi yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tw Newydd yn Llanystumdwy. Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
• Mae’r Academi’n gyfrifol am drefnu gwobr Llyfr y Flwyddyn, digwyddiadau llenyddol (Maes C, cynadleddau, ciniawau, teithiau barddol, darlithoedd), ysgoloriaethau awduron, Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc, cynlluniau nawdd amrywiol
• Mae’r Academi wedi ymuno â’r Urdd, Opera Cenedlaethol Cymru a sefydliadau eraill fel un o breswylwyr Canolfan Mileniwm Cymru.
Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Tw Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266 ffacs: 029 2049 2930
www.academi.org post@academi.org
Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru Rhif elusen gofrestredig: 506402


