Gwasanaethau i Awduron
Grym Geiriau
Un prifardd, dau fardd, darlithydd, athro, dramodwyr yn troi’n nofelywr - bydd 18 o awduron yn derbyn cyfran o £95,000 o bunnoedd gan yr Academi i’w hysgogi i ysgrifennu. Yn ogystal â llenorion cyhoeddedig Cymru, bydd pedwar o awduron newydd ymhlith y rhai sy’n derbyn ysgoloriaeth i brynu amser o’u dyletswyddau bob dydd.
Bardd ar bererindod
Bydd ysgoloriaeth yn galluogi’r Prifardd Ceri Wyn Jones i gymryd amser i ffwrdd o’i waith fel Golygydd Llyfrau Saesneg gyda Gwasg Gomer a chanolbwyntio ar ysgrifennu cyfrol arall o farddoniaeth. Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf Dauwynebog (Gwsg Gomer) yn 2007. Mae’n bwriadu dilyn trywydd gwahanol gyda’r gyfrol nesaf, gan archwilio ymwybyddiaeth ysbrydol oes sy’n honni bod yn un ôl grefyddol, gan ganolbwyntio ar Gymru a’i phobl a’i lleoliadau.
Bydd Llion Iwan, awdur Casglwr a Lladdwr, yn cael amser i ffwrdd o’i waith fel darlithydd i ysgrifennu nofel am brofiadau milwr a oroesodd ryfel y Malfinas. Bydd yr awdur, dramodydd a’r sgriptiwr Geraint Lewis yn canolbwyntio ar ysgrifennu ei drydedd nofel Haf o Hud, wedi ei gosod yn haf crasboeth 1976.
Bydd ysgoloriaethau 2008 yn esgor ar sawl nofel newydd yn Saesneg yn ogystal.Ymhlith yr awduron sy’n derbyn ysgoloriaethau i ysgrifennu’n Saesneg mae Matthew David Scott, Charlotte Greig, Lara Clough, Tom Bullough, a Laurence Allan. Bydd ysgoloriaeth yn galluogi Jon Gower i gymryd seibiant o gynhyrchu a darlledu a chanolbwyntio ar orffen ei gasgliad o straeon byrion Saesneg, Too cold for snow. Bydd y bardd a’r cyfieithydd llenyddol P C Evans yn canolbwyntio ar gwblhau ei ail gasgliad o farddoniaeth yn Saesneg.
Ymhlith yr awduron newydd dyfarfnwyd ysgoloriaeth i Anna Lewis, Joanna Owen, Brett Jocelyn Epstein a Zillah Slingsby Bethell.
Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi: “Ysgoloriaethau yw’r dull mwyaf effeithiol o gynorthwyo awduron - maent yn prynu amser a chyfleoedd gwerthfawr mewn byd lle mae’r rhain yn fwyfwy prin. Mae ysgloriaethau’n ffurf gyfoes ar noddwyr yr Oesoedd Canol. Yn yr Academi rydym yn falch ein bod wedi canfod derbynwyr amrywiol a chwbl deilwng. Trueni na allem gynnig fwy o nawdd.”
Dywedodd Gwen Davies, Cadeirydd y Panel Ysgoloriaethau: “Mae effaith negyddol y Gemau Olympaidd ar nawdd gan y Loteri yn amlwg, gan fod y cyllid sydd ar gael ar gyfer ysgoloriaethau’n parhau heb gynnydd. Hoffem i Gyngor y Celfyddydau nodi os ydy gwella cyfraddau taliadau i awduron yn parhau’n flaenoriaeth, mae’n hanfodol i gynyddu’r cyllideb sydd ar gael ar gyfer y cynllun hwn.”
Nodiadau ar gyfer golygyddion:
Yr Academi
• Yr Academi yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru. Sefydlwyd yr Academi Gymreig ym 1959 yn sgil trafodaethau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams.
• Ym 1998 ymgymerodd y gymdeithas â maes llafur helaethach o lawer pan enillodd gytundeb Cyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu Asiantaeth Lenyddiaeth Genedlaethol.
• Mae’r Academi yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy. Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
• Mae’r Academi’n gyfrifol am drefnu gwobr Llyfr y Flwyddyn, digwyddiadau llenyddol (Maes C, cynadleddau, ciniawau, teithiau barddol, darlithoedd), ysgoloriaethau awduron, Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc, cynlluniau nawdd amrywiol
• Mae’r Academi wedi ymuno â’r Urdd, Opera Cenedlaethol Cymru a sefydliadau eraill fel un o breswylwyr Canolfan Mileniwm Cymru.
Ysgoloriaethau:
Dyfernir Ysgoloriaethau ar gyfer Awduron yn flynyddol gan yr Academi. Ceir manylion llawn ar ein gwefan www.academi.org.
Ceir rhestr isod o’r holl ymgeiswyr llwyddiannus.
Panel Ysgoloriaethau’r Academi 2007-08:
Gwen Davies (Cadeirydd), Catherine Fisher, Kathryn Gray, Amanda Hopkinson ac Idris Reynolds.
YSGOLORIAETHAU I AWDURON 2008
Matthew David Scott - Awdur Cyhoeddedig £9,500
Debbie Moon - Ysgoloriaeth Galluogi £225
Brett Jocelyn Epstein - Awdur Newydd £1,000
Geraint Lewis - Awdur Cyhoeddedig £8,000
Joanna Owen - Awdur Newydd £3,000
Llion Iwan - Awdur Cyhoeddedig £7,000
Anna Lewis - Awdur Newydd £2,000
Charlotte Greig - Awdur Cyhoeddedig £7,000
Lara Clough - Awdur Cyhoeddedig £3,000
Ceri Wyn Jones - Awdur Cyhoeddedig £9,675
Jill Piercy - Awdur Cyhoeddedig £1,200
Laurence Allan - Awdur Cyhoeddedig £7,800
Sue Barrow - Awdur Plant £7,000
P C Evans - Awdur Cyhoeddedig £5,000
Jon Gower - Awdur Cyhoeddedig £8,000
Zillah Slingsby Bethell - Awdur Newydd £3,500
Sarah Broughton - Awdur Cyhoeddedig £8,500
Tom Bullough - Awdur Cyhoeddedig £3,600
Cyfanswm: £95,000
10 Mawrth 2008
Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266 ffacs: 029 2049 2930
www.academi.org post@academi.org
Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Academi’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Rhif elusen gofrestredig: 506402


