Gwibdeithiau Llenyddol

Awduron a’u Cynefin:
Pum Gwibdaith Lenyddol yng Nghymru

Bus tours

Hoffech chi dreulio diwrnod yng nghefn gwlad yng nghwmni Bardd Cenedlaethol ac Archdderwydd? Neu ddilyn ôl troed un o feirniaid llenyddol mwyaf Cymru ar hyd Bannau Brycheiniog? Dyma’ch cyfle.

Mae’n bleser gan yr Academi gyflwyno cyfres o Wibdeithau Llenyddol yn seiliedig ar chwe awdur gwahanol yn eu cynefin - Waldo Williams, Gillian Clarke, Dic Jones, Roland Mathias, Lewis Jones a Dafydd ap Gwilym. Bydd y gwibdeithiau’n cynnwys ymweliadau â lleoliadau pwysig ym mywyd a gwaith yr awduron, darlleniadau a chyfle i ddysgu mwy am yr awduron gan arbenigwyr.

Boed yn ddiwrnod yng Ngheredigion gyda’r Bardd Cenedlaethol Gillian Clarke a’r Archdderwydd Dic Jones, ymweliad â Chwm Clydach a dilyn ôl troed yr awdur adain-chwith Lewis Jones, ymweld ag ardal Waldo Williams, un o feirdd mwyaf blaenllaw y Gymraeg neu fentro nôl i’r Canol Oesoedd i glywed cyfrinachau hen a newydd am y bardd enwog Dafydd ap Gwilym, mae’r Academi’n gobeithio fod y gyfres hon o wibdeithiau yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.

Derbyniodd yr Academi Wobr Cwmni Disglair gan Gyngor Celfyddydau Cymru 2008-2010 a defnyddir y wobr i gefnogi’r gwibdeithiau hyn, fel rhan o’n cynllun twristiaeth lenyddol. Defnyddir y nawdd hefyd i hybu cynllun y Bardd Cenedlaethol a Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc.

Dywed Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi: “Mae ymweld â llefydd sy’n gysylltiedig ag awduron - y llefydd ble buont yn cerdded, yn byw, yn creu – yn gallu bod yn hynod foddhaus. Mae’n fraint ymweld â’r llefydd a daniodd eu gweithiau mawr. Arweinir gwibdeithiau’r Academi gan dywyswyr gwybodus. Paratowch am deithiau bywiog, cynhwysfawr a difyr. ”

Mae pob gwibdaith yn cynnwys cinio a seibiannau coffi mewn lleoliadau arbennig a chost tocyn ar gyfer un wibdaith fydd £37 (£35 ar gyfer Aelodau a Chefnogwyr yr Academi).  Mae’r Academi’n gobeithio y byddwch yn dysgu mwy am yr awduron ac yn cael diwrnod i’r brenin.



Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Academi:
029 2047 2266 / post@academi.org
www.academi.org