Gwobr 2010
Llyfr y Flwyddyn 2010

Dyfernir gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan yr Academi, yn flynyddol i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym maesydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.
Dyfernir y gwobrwyon i’r llyfrau gorau a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr. Eleni, fe wobrwyir cyfrol Gymraeg a Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod 2009.
Cyhoeddwyd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010 nos Fawrth, 20 Ebrill 2010 yng Nghanolfan Rheolaeth Bangor. Cliciwch yma i ddarllen rhagor o wybodaeth.
Datgelwyd y Rhestr Fer o dair cyfrol Cymraeg a thair cyfrol Saesneg yng Ngŵyl y Gelli ddydd Sul, 6 Mehefin 2010. Cliciwch yma am ragor o fanylion.
Gwobrwywyd £10,000 yr un i’r ddau enillydd , yn ogystal â £1,000 yr un i’r pedwar a ddaw yn agos at y brig, mewn Seremoni Wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd nos Fercher 30 Mehefin 2010. Cliciwch yma i weld pwy oedd yn fuddugol.



