Gwobr y flwyddyn nesaf

 Llyfr y Flwyddyn


Dyfernir gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan yr Academi, yn flynyddol i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.

Dyfernir y gwobrwyon i’r llyfrau gorau a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr. Yn 2011, fe wobrwyir cyfrol Gymraeg a Saesneg a gyhoeddir yn ystod 2010.

Y dyddiad olaf a dderbynir llyfrau cymwys ar gyfer gwobr 2011 yw 17 Rhagfyr 2010 (ar gyfer teitlau a gyhoeddir rhwng mis Ionawr a mis Tachwedd 2010), a 15 Ionawr 2011 (ar gyfer teitlau a gyhoeddir ym mis Rhagfyr 2010).

Bydd rhagor o wybodaeth am wobr 2011 yn ymddangos yma cyn hir…