Gwybodaeth Corfforaethol

Academi – Llinell Amser

1959 - sefydlu Yr Academi Gymreig, cymdeithas genedlaethol i awduron yng Nghymru ar sail sgyrsiau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams.

1968 - â chymorth Cyngor y Celfyddydau sefydlir Adran Saesneg, The Welsh Academy.

1978 - Yr Academi Gymreig / The Welsh Academy yn dod yn gyfansoddiadol annibynnol.

1986 - The Welsh Academy yn cyhoeddi’r Oxford Companion To The Literature of Wales.

1995 - The Welsh Academy yn cyhoeddi Geiriadur yr Academi - The Welsh Academy English-Welsh Dictionary.

1997 - Yr Academi Gymreig yn llwyddiannus yn ei chais loteri i gyhoeddi Gwyddoniadur Cymru – y gyfrol gyntaf o’i bath.

1998 - Diwygio’r Gymdeithas o dan un Bwrdd Rheoli ag un cyfansoddiad.

1998 - y Gymdeithas, ar y cyd â Thŷ Newydd, y ganolfan ysgrifennu breswyl yng Ngwynedd, yn ennill adnoddau mewn cystadleuaeth i redeg Asiantaeth Hyrwyddo Llenyddiaeth Genedlaethol Cymru.  Yr Asiantaeth newydd yn ysgwyddo’r gwaith o reoli rhai o gynlluniau llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru gan gynnwys Awduron ar Daith.

1999 - ar y cyd â Chanolfan Dylan Thomas yn Abertawe, yr Academi yn sefydlu canolfan yng Ngorllewin Cymru.

1999 - Yr Academi Gymreig / The Welsh Academy yn dechrau defnyddio’r un gair, Academi at ddibenion cyhoeddusrwydd gan gadw ei henw llawn cyfreithiol, Yr Academi Gymreig ar gyfer popeth arall.

1999 - Cyngor Celfyddydau Cymru yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb a’r adnoddau i’r Academi dros ddarparu gwyliau a digwyddiadau llenyddol eraill ar draws Cymru.

2003 - Academi’n ysgwyddo gan Gyngor Celfyddydau Cymru y cyfrifoldeb dros gynnal gwasanaethau i awduron gan gynnwys ysgoloriaethau, gwasanaethau beirniadol, mentora a gwybodaeth.

2003 - Academi’n ysgwyddo’r gwaith o reoli gwobrau Llyfr y Flwyddyn ar ran CCC.

2004 - Academi yn cyflwyno gwobr Llyfr y Flwyddyn am y tro cyntaf.

2004 - Academi yn dosbarthu ei hysgoloriaethau cyntaf.

2005 - Academi yn agor Canolfan Glyn Jones yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.

2008 - Academi yn cyhoeddi Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig.