Gwybodaeth i Awduron
Hawlfraint, llên–ladrad, tor-hawlfraint a dyfynnu
Mae a wnelo â’r hawl i gopïo neu atgynhyrchu.
Llên-ladrad
Gadewch inni chwalu un myth – y dynwaredwr bythwyrdd sy’n dwyn eich syniadau cyn gynted ag y byddwch yn eu rhoi ar ddu a gwyn. Mae’r stori hon yn hen gyfarwydd inni – yr hanes torcalonnus am waith diamddiffyn yn cael ei gipio o dan drwyn yr awdur. Fel rheol, mae’r gwaith wedi ei anfon i rywle – i gylchgrawn neu raglen radio – ac yna bu tawelwch mawr. Yn ddiweddarach, mae’r un darn, a mân newidiadau iddo, yn ailymddangos ag enw rhywun arall wrtho heb unrhyw gydnabyddiaeth o gwbl i’r awdur gwreiddiol. Yn ein profiad ni, dyw hyn ddim yn digwydd. Pan fyddwn yn gwneud ymchwiliadau – ac rydym wedi gwneud hynny fwy nag unwaith – mae’r ffeithiau’n ymddatod, y cylchgronau’n anweddu. ’O …, felly nid i Lais Afallon yr anfonodd hi’r darn, rhaid mai i rywle arall.’ A dyna beth arall, rydyn ni’n rhyw sylwi nad i’r person sy’n dweud y stori y mae hyn wedi digwydd byth – yn nhraddodiad creu mythau, i rywun arall y mae’n digwydd bob tro.
Mewn gwirionedd, mater o radd yw llên-ladrad. Dywed Ben Johnson wrthym fod dynwared yn anghenraid i fardd, ’gallu troi sylwedd neu gyfoeth bardd arall at ei ddefnydd ei hun’. Ond ydy wrth gwrs, mae yn dibynnu pa mor bell yr ewch chi. Yn y 1960au, cyhoeddodd y bardd o’r Alban, Hugh MacDiarmid gerdd o’r enw ’Perfect’ am adain gwylan. Roedd ei thestun wedi ei gymryd bron air am air o stori fer gan yr awdur o Gymro, Glyn Jones. Yn yr ohebiaeth a ddilynodd a gyhoeddwyd gan y TLS, honnai MacDiarmid fod ganddo gof ffotograffig ac mai’n ddiarwybod iddo y defnyddiodd linellau Glyn Jones. Nid bod y cyfaddefiad hwn wedi gwneud unrhyw wahaniaeth. Mae’r darn yn dal i’w weld heddiw yn y casgliad o waith MacDiarmid.
At ei gilydd, fodd bynnag, nid yw’r byd ysgrifennu’n cael ei blagio ryw lawer gan dorwyr hawlfraint o’r fath. Oes, mae yna rai sy’n benthyg, ond prin yw’r enghreifftiau o ddwyn talpiau mawr o waith rhywun arall a chymryd arnoch mai chi yw’r awdur. Ar wahân i blant ysgol (sydd fel petaent yn cyflwyno gweithiau mawr hanes llenyddiaeth yn rheolaidd mewn cystadlaethau barddoniaeth lleol), fel arfer y person sydd â’i enw wrth ddarn o waith ysgrifennu yw’r awdur. Y dyddiau hyn, mae gwreiddioldeb llwyr yn gysyniad tra phwysig. Mewn cyfnodau cynharach roedd pawb yn disgwyl i themâu, syniadau a delweddau gael eu hailysgrifennu a’u hailddefnyddio gan y naill genhedlaeth o awduron ar ôl y llall. Heddiw, mae rhywbeth ynglŷn â llythrennedd torfol a chyfathrebu torfol sy’n ei gwneud yn hanfodol i unrhyw waith creadigol fod yn waith o’ch eiddo chi a neb arall.
Hawlfraint a sut y caiff ei sefydlu
Y myth mwyaf am hawlfraint ym Mhrydain yw bod yn rhaid ichi wneud rhywbeth i’w chael, i’w chofrestru fel eich eiddo eich hun. Mae’r gamddealltwriaeth hon yn tarddu’n rhannol o’r arfer Americanaidd, lle’r oedd rhaid mynd trwy drefn gofrestru ar un adeg er mwyn sicrhau hawlfraint, ac o Ddeddf Hawlfraint Prydain 1911 ein hunain sy’n mynnu bod cyhoeddwyr yn anfon copïau o bob llyfr newydd i rai llyfrgelloedd adneuon, yn rhad ac am ddim. Mae’n arferiad gan rai pobl ochelgar i anfon copi o’u cerddi, gan ddefnyddio’r post cofrestredig, i fanc lle cedwir ef heb ei agor yn yr ystafell ddiogel; neu hyd yn oed bluo nyth eu cyfreithiwr trwy ei gael ef (neu hi) i’w gadw iddynt. Mae hyn yn sefydlu mai nhw yn ddiamheuol yw perchenogion ffurf y gwaith, ac mae hefyd yn cofnodi dyddiad y cyfansoddiad. Gall fod yn ddyfais ddefnyddiol, o bosibl, mewn unrhyw achos cyfreithiol yn ymwneud â thor-hawlfraint yn y dyfodol. Ond dim ond os yw’r awdur yn teimlo bod perygl arbennig i’w waith y mae’n werth ei wneud; nid yw’n angenrheidiol o gwbl.
Mae hawlfraint yn bod y funud y caiff y gwaith ei greu. Cofnodwch eich geiriau ’mewn unrhyw gyfrwng priodol’ ac rydych wedi sefydlu ffurf y gwaith. Chi biau’r hawlfraint. Os byddwch yn gorffen rhan o’r gwaith, mae hawlfraint ar y rhan honno. Mae hawlfraint ar eich nodiadau, ac ar y llun a grafwch ar gefn mat cwrw. Ac nid oes angen ichi wneud dim o gwbl i hawlio’r hawl honno.
Ym Mhrydain, mae deddf hawlfraint yn darparu ar gyfer gwarchod ysgrifennu awdur ond nid y syniadau na’r delweddau na’r synnwyr a gynhwysir yn y gwaith hwnnw. Mae hawlfraint yn cynnwys ffurf ddiriaethol y geiriau yn hytrach na’r hyn a ddywedant. Mae’r warchodaeth hon yn eiddo ichi tra byddwch chi, a phan fyddwch farw bydd yn cael ei throsglwyddo i’ch stad ac yna’n parhau am ddeng mlynedd a thrigain arall cyn mynd yn eiddo cyhoeddus. Golyga hyn na ellir defnyddio eich gwaith heb eich caniatâd am gryn amser. Os oes diddordeb yn parhau dros hanner canrif ar ôl eich amser chi, yna mae’r genedl yn ei haeddu am ddim. Byddwch yn rhan o’r diwylliant erbyn hynny.
Mae cyfraith hawlfraint hefyd yn sefydlu yr hyn a elwir yn hawliau moesol. Ar yr amod eich bod yn gwneud y datganiad priodol yn arddel eich hawliau, bydd gennych hawl bob amser i gael eich nodi fel awdur eich gwaith. Mewn geiriau eraill, ni all eich gwaith ymddangos yn unman mewn print heb eich enw chi wrtho. Mae arddel yr hawliau hyn yn hawdd. Yn eich gwaith cyhoeddedig ychwanegwch y geiriau ’mae hawl foesol yr awdur wedi ei harddel’ ar verso (sef cefn) yr wynebddalen ar ddechrau’r llyfr.
Beth allwch chi ei wneud â’ch hawlfraint? Os meddyliwch amdani fel eiddo – dyna sut mae’r gyfraith yn ei hystyried – gallwch ei gwerthu, ei rhentu, rhoi ei benthyg neu hyd yn oed ei rhoi ymaith. Os cyflwynwch gerdd i gylchgrawn a’r gwaith yn cael ei ddefnyddio, mae’r hawlfraint fel arfer yn dal yn eiddo i chi. Hyd yn oed os cawsoch eich talu, chi biau’r hawlfraint o hyd. Rhentu’r gerdd yn unig mae’r cylchgrawn. Dim ond os llofnodwch eiriau yn rhoi’r hawlfraint ymaith y gall yr hawlfraint fynd yn eiddo i rywun arall. Fel rheol nid yw hyn yn digwydd â chylchgronau, a’r rheol yw peidio â llofnodi dim byd – hynny yw, oni chynigir llwyth o arian ichi.
Bydd cylchgronau a blodeugerddi’n aml yn dangos symbol hawlfraint © fel hyn:
© 2003 Gwasg Twm Morys
Peidiwch â phryderu. Nid yw’r symbol hwn yn angenrheidiol, fel yr ydym wedi nodi, er mwyn cael eich gwarchod gan gyfraith y D.U., ond bydd yn help i’ch gwarchod dramor, yn arbennig yn America lle mae confensiynau hawlfraint yn wahanol. Yn ail, dim ond y detholiad yn y flodeugerdd neu’r cylchgrawn – y dewis o weithiau a’r drefn sydd arnynt - sy’n cael ei hawlio. Bydd yr hawlfraint yn aros â deiliaid yr hawlfraint – boed y rheini yn awduron neu’n unigolyn arall, cyhoeddwr fel rheol, y gwerthwyd yr hawliau iddo neu iddi.
Dyfynnu
I awduron, yr hyn sy’n bwysig yw’r hawliau i’ch gwaith cyhoeddedig a’r caniatâd sydd ei angen i ddyfynnu ohono neu i’w ddefnyddio eto. Unwaith y bydd wedi ei gyhoeddi, mae’n ddigon posibl y dewisir eich gwaith ar gyfer blodeugerddi, i’w ddefnyddio ar y llwyfan mewn rhyw gyflwyniad, ei ddarlledu, neu hyd yn oed ei ddefnyddio fel rhan o draethawd beirniadol neu werslyfr. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen caniatâd gan ddeiliad yr hawlfraint i ddefnyddio’r gwaith ac mae hyn yn ddieithriad yn golygu talu ffi. Byddant yn ysgrifennu atoch, neu at eich cyhoeddwr, ac yn gwneud cynnig. Os oes gan eich cyhoeddwr unrhyw arbenigedd yn y maes hwn, dilynwch ei arweiniad neu fel arall bydd yn rhaid ichi benderfynu eich hun a yw’r hyn sy’n cael ei gynnig yn dâl teg ai peidio. Mae’r Deddfau Hawlfraint, fodd bynnag, yn caniatáu rhai amgylchiadau lle nad oes angen gofyn am ganiatâd i ddefnyddio deunydd hawlfraint. Gelwir yr arfer hwn yn ddelio teg a dyma’r amgylchiadau’n fras:
a) i’w ddefnyddio mewn ymchwil ac astudiaeth breifat
b) i’w ddefnyddio mewn beirniadaeth ac adolygiad
c) i gofnodi digwyddiadau cyfoes
ch)atgynhyrchu ar gyfer gweithrediad cyfreithiol
d) darllen yn uchel yn gyhoeddus (ond nid darlledu, na recordio)
dd) cynnwys, mewn rhai amgylchiadau, ddarn byr mewn casgliad a fwriedir ar gyfer ysgolion
Rhaid rhoi cydnabyddiaeth ddigonol bob tro. Gellir defnyddio rhan ’lai na sylweddol’ o waith heb ganiatâd mewn rhai amgylchiadau eraill hefyd. Yn anffodus, nid yw cyfraith Hawlfraint yn diffinio beth a olygir wrth ’sylweddol’. Ceir cyngor pellach ar y mater hwn ym mhamffled Cymdeithas yr Awduron, Quick Guide to Permissions. Mae gan Gymdeithas yr Awduron wybodaeth ddefnyddiol hefyd ynghyd â thaliadau enghreifftiol ar eu gwefan yma.
Tor-hawlfraint
Beth allwch chi ei wneud os teimlwch fod y ddeddf wedi ei thorri? Pa rwymedïau sydd yna am dor-hawlfraint? Beth ddylech chi ei wneud? I ddechrau, gwnewch yn si?r bod eich ffeithiau’n gywir. Fel yr ydym wedi nodi, gall cyfraith hawlfraint fod yn dir peryglus i’r anghyfarwydd. Ewch ati i ddarllen amdani, os credwch fod gennych achos. Astudiwch gyfraniad cryno Amanda L. Michael, ’British Copyright Law’ yn y Writer’s & Artist’s Yearbook (A&C Black) ac yna’r darlun ehangach a roddir gan Barry Turner yn The Writer’s Handbook (Macmillan). Os credwch y gallai fod gennych achos, holwch eich cyfreithiwr.
Addaswyd yr ysgrif hon o Peter Finch, How To Publish Your Poetry (Allison & Busby).


