Gwyddoniadur
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig
"Llyfr y bydd pob teulu o Gymry sydd â’u treftadaeth yn agos at eu calon am fod â chopi ohono" – dyna sut y diffiniwyd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig gennym. Efallai mai adlewyrchu statws economaidd a gwleidyddol Cymru yn y gorffennol y mae’r ffaith nad oes gwaith o’r fath yn bodoli eisoes - gyda dyfodiad datganoli a’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth genedlaethol roedd y cyfle yn ei gynnig ei hun. Gyda chymorth sylweddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy ei arian Loteri, mae’r gwaith ar y canllaw anhepgor hwn i bopeth yn ymwneud â Chymru bron â bod yn gyflawn. Bu cefnogaeth parhaus Cyngor Celfyddydau Cymru i’r prosiect, o ran cymorth ariannol, brwdfrydedd ac anogaeth, yn sylweddol ac mae wedi’n galluogi ni i gwblhau’r prosiect ar ôl deng mlynedd o waith.

Mae’r gwaith a olygwyd gan John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines, a Peredur I. Lynch yn cynnwys dros 1200 o dudalennau wedi’u darlunio. Cyhoeddwyd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig gan Wasg Prifysgol Cymru ar y 31ain o Ionawr, 2008 ac mae copïau ar gael nawr.
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig fydd y cyfeirlyfr awdurdodol am Gymru, a bydd yn cynnwys cofnodau am y bobl a’r lleoedd a’i gwnaeth mor gyfoethog yn ddiwylliannol, hanesyddol a daearyddol. O fynyddoedd Eryri i’r paith ym Mhatagonia, o arwyr gwerin i’r Cymry a ddisgleiriodd yn y Gemau Olympaidd, a’r gwŷr a’r gwragedd o Gymru sydd wedi rhagori mewn celfyddyd, diwylliant a gwleidyddiaeth. Â thros 5,000 o gofnodau, mae hwn yn waith uchelgeisiol sy’n cynnwys pob agwedd ar orffennol Cymru, ei phobl, ei lleoedd, a’i chelfyddydau, ei diwydiant, ei hamgylchedd a’i thraddodiadau.
• Dyma’r gwyddoniadur cyntaf erioed am Gymru i’w gyhoeddi yn un gyfrol mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân
• Mae’n darparu gwybodaeth sy’n hawdd cael hyd iddi ar unrhyw agwedd ar Gymru a bywyd Cymru, ddoe a heddiw
• Mae’n cynnwys dros 5,000 o gofnodau ynghyd â deunydd newydd nas cyhoeddwyd erioed o’r blaen
• Mae ynddo gyfraniadau gan dros 300 o awdurdodau blaenllaw yn eu meysydd
• Mae’n cynnwys dros 300 o ddarluniau
• Dyma’r cyfeirlyfr anhepgor am Gymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain
Cyhoeddwyd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yr un pryd â’r argraffiad Saesneg, The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales, a gyhoeddir hefyd gan Wasg Prifysgol Cymru.
2008, tua 1200 tt. 245x164 mm, clawr caled £65.00
ISBN-13 978-0-7083-1953-6 ISBN-10 0-7803-1953-X
I brynu copi ewch i wefan Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yma.


