Gwyddoniadur

Hanes y Prosiect yn Gryno

1728 – Cyhoeddi ‘tad y gwyddoniaduron’, Cyclopaedia Ephraim Chambers

1854–1879 – Cyhoeddi 10 cyfrol Y Gwyddoniadur Cymreig.  Yn 9000 o dudalennau, dyma’r gwaith hiraf i’w gyhoeddi erioed yn Gymraeg.

Yn yr un cyfnod golygodd Owen Jones (1806-89) ddwy gyfrol Cymru: yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol (Wales: Historical, Topographical and Biographical; 1871-5).  Roedd hwn yn wyddoniadur cenedlaethol o’r math arall, a fu’n ymddangos o ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen, yn delio’n gyfan gwbl ag un genedl neu ranbarth arbennig.

Arweiniodd datblygiadau o’r math yn y pen draw at gyhoeddi gwyddoniaduron yn ymwneud â dinasoedd neu drefi unigol.  Yr unig enghraifft Gymreig hyd yma yw The Encyclopaedia of Wrexham, W. Alister Williams (2001).

1997 - Yr Academi Gymreig, â chefnogaeth CCC, yn llwyddo yn ei chais loteri i gyhoeddi Gwyddoniadur cyntaf Cymru.

1998 – penodi Kevin Thomas yn Rheolwr Prosiect

1998 – sefydlu Pwyllgor Rheoli i’r Gwyddoniadur.  Ei aelodau’n cynnwys Brynley F. Roberts, Ned Thomas, Philip Gwyn Jones, John Osmond, Ceri Delamore, Iestyn Hughes, Patrick Sullivan a Kevin Thomas.

1999 – penodi John Davies, Menna Baines a Nigel Jenkins yn olygyddion y Gwyddoniadur.

2005 – Peredur I. Lynch yn ymuno â’r prosiect fel pedwerydd golygydd

2006 – y Western Mail yn cyhoeddi rhannau o’r gyfrol

31ain o Ionawr, 2008 – Cyhoeddi Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig

2ail o Chwefror, 2008 - lansiad y Gwyddoniadaur yn y Senedd, Bae Caerdydd

Lansiad y Gwyddoniadur