Gwyddoniadur
Cyfranwyr
Galwodd Golygyddion Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch, am gyngor arbenigol gan bron 400 o gyfranwyr yn ystod y prosiect. Gyda’i gilydd, maent yn gyfrifol am y 5,000 o gofnodau a rhagor sy’n cwmpasu pob agwedd ar orffennol Cymru, ei phobl, ei lleoedd, a’i chelfyddydau, ei diwydiant, ei hamgylchedd a’i thraddodiadau. O fynyddoedd Eryri i’r paith ym Mhatagonia, o arwyr gwerin i’r Cymry a ddisgleiriodd yn y Gemau Olympaidd, a’r gwwr a’r gwragedd o Gymru sydd wedi rhagori mewn celfyddyd, diwylliant a gwleidyddiaeth.
Mae’r Academi yn cynnal cyfres o ddarlithoedd yn seiliedig ar y Gwyddoniadur, a roddir gan rai o’r cyfranwyr eu hunain. Rhwng nawr a 31 Mawrth 2008 gallwn gynnig cymorth ariannol i grwpiau sy’n bwriadu trefnu darlithoedd naill ai am brosiect y Gwyddoniadur yn gyfan neu am unrhyw rai o’r miloedd o erthyglau unigol sydd yn y gwaith. Gweler y Ffurflen Archebu Ar Lein yn yr adran hon am ragor o fanylion. Isod mae rhestr o’r cyfranwyr hynny sydd ar gael i ddarlithio:
Cymraeg
Menna Baines
Ganed Menna ym Mangor ond treuliodd ran dda o’i phlentyndod yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn, cyn symud i Ben–y-groes yn Arfon. Wedi graddio mewn Cymraeg ym Mangor a dilyn cwrs MPhil yno, bu’n gweithio yn y maes newyddiadurol am rai blynyddoedd – fel is-olygydd celfyddydol Golwg i ddechrau (1988–91) ac yna fel golygydd Barn (1991–6). Oddi ar 1996 bu’n gweithio ar ei liwt ei hun yn ysgrifennu, sgriptio a golygu. Cyhoeddodd ddwy gyfrol, sef Pum Awdur Cyfoes: Cyflwyniad i Fyfyrwyr Ail Iaith (1997) ac Yng Ngolau’r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard (2005), cyfrol a gyrhaeddodd restr hir Llyfr y Flwyddyn 2006.
Hywel Teifi Edwards
Bu’n diwtor llenyddiaeth Gymraeg yn Adran Addysg Oedolion, Prifysgol Cymru, Abertawe ac yna’n Athro’r Gymraeg yno. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn niwylliant Cymru oes Victoria ac yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol fel allwedd i’r diwylliant hwnnw.
Pynciau: 1. Yr Eisteddod Genedlaethol 2. Ceiriog, bardd cysur Cymru 3. Eos Morlais, eicon ’Gwlad y Gan’.
Peredur I. Lynch
Brodor o Garrog yn yr hen Sir Feirionnydd yw’r Athro Peredur I. Lynch. Ar ôl graddio yn y Gymraeg ym Mangor, bu’n Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth rhwng 1985 a 1990 ac yna’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Abertawe. Dychwelodd i’w hen adran yn ddarlithydd yn 1995. Fe’i dyrchafwyd yn Athro yn 2005 ac ef oedd Pennaeth Adran y Gymraeg rhwng 2003 a 2006. Y mae’n arbenigwr ar waith Beirdd y Tywysogion a chyfrannodd yn helaeth i Cyfres Beirdd y Tywysogion (1991–6). Y mae wedi cyhoeddi’n helaeth hefyd ar amryfal agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg ar hyd y canrifoedd.
Harri Pritchard Jones
Awdur a chyn-seiciatrydd. Cyhoeddodd pymtheg cyfrol, yn nofelau, casgliadau o storïau byrion, cyfieithiadau a beirniadaeth lenyddol. Cyfieithwyd ei waith i saith iaith, ac fe’i darllenwyd Radio Cymru, Radio Wales, Radio 4 a 3, a Radio Denmarc. Sgrifennodd nifer o sgriptiau teledu. Enillodd Wobrau Barn, yr Eisteddfod Genedlaethol a Chyngor y Celfyddydau. Mae’n byw yng Nghaerdydd, ac yn gyd-gadeirydd Yr Academi Gymreig.
Pynciau: 1. Cymru ac Iwerddon 2. Kate Roberts 3. Caradog Prichard 4. Saunders Lewis 5. Kate Roberts, Saunders Lewis a Caradog Prichard.
Iwan Llwyd
Bardd a newyddiadurwr. Ganed yn Llanidloes, Powys. Addysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Testun ei draethawd MA oedd Noddwyr y Beirdd yn Sir Gaernarfon. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990 am ei gasgliad Gwreichion. Mae wedi cyhoeddi sawl cyfrol o farddoniaeth, ac wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu a’r theatr. Mae’n aelod o grwpiau Steve Eaves, Rhai Pobol a Geraint Løvgreen a’r Enw Da. Mae ganddo golofnau rheolaidd yn Barddas a Barn.
Pynciau: 1. Beirdd a noddwyr beirdd yn Sir Gaernarfon 1350 – 1650. Arbennigo ar deuluoedd Cochwillan, Glynllifon a theuluoedd Eifionydd.
Saesneg
Patrick Dobbs
Neil Evans
Nigel Jenkins
Peter Stead
M. Wynn Thomas
Meic Stephens
Mike G. Bassett
Herbert Williams
Osi Rhys Osmond
Isod mae rhestr o’r cyfranwyr eraill:
| Jane Aaron | Lynn Hughes R. Elwyn Hughes Trystan Hughes Pat Humphreys Daniel Huws Gwilym Huws Richard Huws Allan James E. Wyn James Penri James Sian James Watcyn James Branwen Jarvis Angharad Jenkins Branwen Jenkins Colin Jenkins Dafydd Jenkins Geraint H. Jenkins Gwyn Jenkins J. Geraint Jenkins Nigel Jenkins Myrddin John Martin Johnes Colin Johnson Howard Johnson Caroline Joll Aled Jones Alun Gwynedd Jones Barbara Jones Barrie Jones Bill Jones Dafydd Glyn Jones David Jones David Ceri Jones Dot Jones Emrys Jones Gareth Elwyn Jones Glyn Saunders Jones Hefin Jones Ilid Ann Jones J. Anthony J. Jones J. Graham Jones J. Gwynfor Jones Meinir Llwyd Jones Merfyn Jones Nerys Ann Jones O.R. Jones Peter Jones Peter Hope Jones Philip Henry Jones R. Brinley Jones Sally Roberts Jones Tecwyn Vaughan Jones Tegwyn Jones Phyllis Kinney Bernard Knight David Lambert Gwyneth Lewis Lisa Lewis Emma Lile William Linnard Dafydd Llewelyn Dewi M. Lloyd Nesta Lloyd Ceridwen Lloyd-Morgan Cen Llwyd Rheinallt Llwyd Marion Löffler John Lovering Roy Lowe Frances Lynch Hugh Mackay Gwenan Mared Gwynn Matthews Hugh Matthews Danny McCaroll Alec McKinty Mandy McMath Ruth Meadows Eddie Melen Pamela Michael Peter Midmore Bethan Miles Dillwyn Miles E.G. Millward John Minkes Richard Moore-Colyer Matt Morden D. Densil Morgan Gerald Morgan John Morgan Kevin Morgan Moc Morgan Prys Morgan Delyth Morgans Bernard Morris Gwyn Morris Gerallt Nash Jonathan Neale Robert Nisbet Keith Nurse Paul O’Leary John Osmond Osi Rhys Osmond Arwel Ellis Owen Buddug Owen D. Huw Owen Goronwy P. Owen Hywel Wyn Owen Morfydd E. Owen Trefor M. Owen Stuart Owen-Jones Bob Owens Bryn Parri Harri Parri Gwyn Parry Malcolm Parry R. Gwynedd Parry R. Palmer Parry Matthew Pearson Jim Perrin Allen Perry Dewi Z. Phillips Dylan Phillips Robert Pope David Powell Nia Watkin Powell W. Eifion Powell David Pretty | Geraint Price Richard D. Price William Price Huw Pryce Rees Pryce Richard D. Pryce W.T. Rees Pryce Barbara Prys-Williams Glyn Pursglove Paul Quinn Peter Read Phil Rees Stephen Rees Peter Rhind Rhobert ap Steffan Martin Rhys Robert Rhys Huw Richards Alun Roberts Alwyn Roberts Bob Roberts Brynley F. Roberts Geraint Roberts Glyn Roberts Hywel E. Roberts Tom Roberts Paul Robertshaw Dilwyn Roberts-Young Gordon Roderick Dyfed Rowlands John Rowlands Mike Ryan D. Roy Saer Austin Savage Tom Sharpe John Shorey Chris Shumack Michael Siddons Pwyll ap Siôn John Skone Roy Sloan Llinos Smith Robert Smith Jill Stallard Catrin Stevens Christine Stevens Terry Stevens Ann Stone Mike Sullivan Mared Wyn Sutherland Mick Tems Alan R. Thomas Arthur Thomas Claire Thomas Dennis Thomas Graham C.G. Thomas Gwyn Thomas John Thomas Kevin Thomas Patrick Thomas Phil Thomas Roger Thomas Roy Thomas Wyn Thomas Steven Thompson Geraint Tudur Bob Turner Richard Twining Norman Vetter Huw Walters Thomas Glyn Watkin Andrew Weltch Eurwyn Wiliam Mary Wiliam Cathrin Williams Chris Williams Cyril Williams David H. Williams Gareth Williams Gareth Haulfryn Williams Gareth Vaughan Williams George Campbell Williams Glanmor Williams Gruffydd Aled Williams Huw Williams Huw Glyn Williams Ioan Williams Iolo Williams Iolo Wyn Williams J. Gwynn Williams John Williams John Llywelyn Williams L. John Williams Lyndon Williams Mari Angharad Williams Mel Williams Merfyn Williams Phil Williams William Jones Williams Jen Wilson Romilly Witts Juliette Wood Alex Woolf Goronwy Wynne |


