Gwyddoniadur
A470, Yr
Yr A470, sy’n ymestyn am 270km rhwng Caerdydd a Llandudno, yw’r brif ffordd rhwng gogledd a de Cymru. Rhoddodd dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 statws arbennig iddi; fe’i hystyrir fel symbol o undod Cymru neu, efallai, y dyhead am yr undod hwnnw. I’r gogledd o Gaerdydd mae’r A470 yn cysylltu Merthyr Tudful, Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Rhaeadr Gwy, Llanidloes, Dolgellau, Blaenau Ffestiniog (gw. Ffestiniog) a Betws-y-coed. Rhoddwyd rhif i’r ffordd yn 1972, yn dilyn ymgyrch yn y Western Mail. Hyd at yr adeg honno roedd holl briffyrdd Cymru yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin. Oddi ar 1972 gwnaed gwelliannau graddol i’r A470. Ond a’r daith ar ei hyd yn bedair i bum awr, y mae galw cyson am wneud gwelliannau pellach i’r rhannau helaeth hynny o’r ffordd sy’n parhau’n gul a throellog.