Gwyddoniadur

ABERGELE, Conwy (1,673ha; 10,016 o drigolion)

Bu clas neu fynachlog Geltaidd gynt yn Abergele, sydd yng nghanol ardal wyliau arfordir y gogledd. Ar safle’r clas yn ddiweddarach y codwyd Eglwys Sant Mihangel, un o’r eglwysi deugorff Perpendicwlar helaethaf yng Nghymru. Ym mhen de-orllewinol cymuned Abergele safai bryngaer Dinorben; fe’i dinistriwyd yn llwyr gan waith cloddio ond canfuwyd tystiolaeth fod pobl wedi byw yno’n ddi-dor o ddiwedd yr Oes Efydd hyd at y 7g. (gw. Bryngaerau). Cafwyd hefyd dystiolaeth archaeolegol bwysig o Barc y Meirch gerllaw. Adeiladwyd plasty presennol Cinmel ar safle un cynharach a hynny ar gyfer yr Hughesiaid, a ymelwodd ar fwyngloddiau copr Mynydd Parys. (Urddwyd W. T. Hughes yn farwn Dinorben yn 1831.) Nododd Nikolaus Pevsner fod y plasty (1860au), o waith W. E. Nesfield, yn garreg filltir yn hanes pensaernïaeth. Roedd ynddo ystafell benodol ar gyfer smwddio papurau newydd. Yn 1919, Cinmel oedd lleoliad yr enbytaf ym Mhrydain o’r terfysgoedd a ddeilliodd o broblemau rhyddhau milwyr o’r fyddin. Milwyr o Ganada oedd yn y sgarmes; lladdwyd 5 ac anafwyd 21. Yn ystod yr 20g. symudodd yr Hughesiaid i Hendregyda (Maenor Cinmel) ac yna i Goed Bedw (Plas Cinmel). Ceir adeiladau deniadol ym mhentref stad Cinmel, Llan San Siôr (Cegidog gynt), gan gynnwys yr eglwys a beddrodau’r Hughesiaid. Brodor o Abergele oedd y cenedlaetholwr Emrys ap Iwan (Robert Ambrose Jones; 1851-1906); mae’r ysgol uwchradd leol – yn eironig, un o’r ysgolion Seisnicaf ei hiaith yng Nghymru – wedi’i henwi ar ei ôl. Talwyd am Gapel Mynydd Seion (1868) – enghraifft brin o gapel Gothig Cymreig – gan David Roberts, adeiladwr o Lerpwl. O’i flaen mae cofgolofn i deulu Roberts, yn eu plith, yr aelod seneddol John Roberts, a fu’n gyfrifol am lywio deddf cau’r tafarnau ar y Sul (1881) yng Nghymru trwy’r senedd; urddwyd ei fab yn Farwn Clwyd.