Gwyddoniadur

CAERNARFON, Gwynedd (937ha; 9,611 o drigolion)

Mae’r gymuned hon wedi’i lleoli yn y man lle’r ymuna afon Seiont neu Saint â’r Fenai. Daw’r enw Saint o’r Frythoneg Segonti, a phan sefydlodd y Rhufeiniaid gaer (c.OC 78) ar dir uchel i’r gorllewin o’r dref bresennol fe’i galwasant yn Segontium. (Adffurf ddysgedig o’r 16g. ar sail y ffurf Ladin yw Seiont.) Mae’r gaer yn ymestyn dros 2.3ha, a chafodd rhannau helaeth ohoni eu hailadeiladu gyda cherrig c.120; bu’n adfail am gyfnodau hir a chefnwyd yn derfynol arni yn 383. Adeiladwyd caer lai c.220, a hynny 200m i’r gorllewin. Cyfeirir at hon fel yr Hen Walia, ac mae rhai o’r waliau’n 5m o uchder. Mae nifer o draddodiadau’n ymwneud â Segontium, neu Gaer Saint y traddodiad Cymraeg; fe’i cysylltir â’r Ymerawdwr Cystennin, Macsen Wledig a Branwen ferch Llwr o’r Mabinogion. Hon oedd maerdref (canolfan weinyddol) cwmwd Is Gwyrfai, ac yma yn y gaer yn Arfon (sef y gaer a oedd gyferbyn â Môn) yr oedd un o lysoedd tywysogion Gwynedd (gw. hefyd Arfon a Gwyrfai). Ger safle y Mithraeum Rhufeinig mae Eglwys Peblig neu Publicus, yr honnir ei fod yn un o feibion Macsen Wledig. Mae’r adeilad presennol, sy’n cynnwys aml i gofeb, yn dyddio o’r 14g.

Tua 1090 adeiladodd Hugh o Avranches, iarll Chester, gastell 1km i’r dwyrain o Segontium ar lan afon Menai, sef y safle a ddewiswyd gan Edward I yn 1283 fel y prif gadarnle wedi goresgyniad Gwynedd. Cafodd y cadarnle hwn, sy’n 180m o hyd, ei ddifrodi’n arw yn ystod y Gwrthryfel Cymreig yn 1294. Dechreuwyd eto ar y gwaith adeiladu yn 1296 a pharhaodd y gwaith tan c.1327. Mae’r tyrau wyth-onglog a’r bandiau llorweddol o gerrig o wahanol liwiau yn ein hatgoffa o waliau Theodosaidd Caergystennin – arwydd o feddylfryd ymerodraethol Edward. Mae muriau’r dref – sy’n 734m o hyd – yn gysylltiedig â’r castell, ac mae arnynt wyth t?r, ynghyd â dau borth gyda dau d?r ar bob un. Osgôdd y castell a muriau’r dref y dinistr a fwriadwyd ar eu cyfer yn ystod Rhyfeloedd Cartref y 17g. Cawsant eu hadfer yn helaeth ar ddiwedd y 19g. gan ennill statws Safle Treftadaeth y Byd yn 1986. Ar ddau achlysur, yn 1911 ac 1969, yma y cynhaliwyd seremonïau arwisgo dau dywysog Cymru. O fewn muriau’r castell y ceir amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Ar ôl y Goresgyniad Edwardaidd daeth Caernarfon yn ganolfan ar gyfer llywodraethu Sir Gaernarfon a Thywysogaeth Gogledd Cymru. Daeth yn dref sirol Sir Gaernarfon yn 1283 ac yn dref sirol Gwynedd yn 1974. Er gwaethaf gwreiddiau Seisnig y fwrdeistref, datblygodd Caernarfon i fod y dref Gymreiciaf yng Nghymru o ran iaith. Yn 2001 roedd 91.76% o’r trigolion yn gallu rhywfaint o Gymraeg. – y ganran uchaf ymhlith holl gymunedau Cymru. (Ond gw. Llanuwchllyn.) Mae gan bobl y dref, neu’r ‘Cofis’ fel y’u gelwir, dafodiaith unigryw a anfarwolwyd yn ymsonau radio Richard Hughes a straeon William Owen, Chwedlau Pen Deitsh (1961).

Prif gyfnod twf Caernarfon oedd 1801–41, pan gynyddodd y boblogaeth o 3,626 i 9,192, a hynny’n bennaf oherwydd y gwaith a ddaeth yn sgil allforio llechi o’r Cei. Hwyliai fferi Ynys Môn oddi yma, a daeth y dref yn ganolfan reilffyrdd (1828, 1852, 1867). Bu’n ganolfan bwysig i’r wasg Gymreig, ac yma y cyhoeddid y Caernarvon and Denbigh Herald, Yr Herald Cymraeg, Y Genedl Gymreig a Papur Pawb. Mae’r traddodiad ym myd y cyfryngau’n parhau gan mai Caernarfon yw’r brif ganolfan ddarlledu y tu allan i Gaerdydd.

Er bod nifer o nodweddion pensaernïol o’r Oesoedd Canol i’w gweld o hyd yng Nghaernarfon, o ran pensaernïaeth tref o ganol y 19g. yw hi yn ei hanfod. Erys rhai o’r capeli mawr, gan adlewyrchu’r bri a fu gynt ar Anghydffurfiaeth, ond llosgwyd Capel Moriah (1827) i’r llawr yn 1976, a dymchwelwyd Seilo (1900) tua’r un adeg pan wnaed y ffordd liniaru a anharddodd y dref. Y Maes yw’r enw ar ganol y dref, ac yma ceir cofgolofnau i David Lloyd George a Hugh Owen (1804–81) gyda’r castell yn gefndir iddynt. Un o adeiladau diweddar mwyaf trawiadol Caernarfon yw pencadlys modern Cyngor Sir Gwynedd gerllaw’r castell. Fe’i cynlluniwyd gan Dewi-Prys Thomas ar batrwm adeiladau llywodraethau cantonau’r Swistir er mwyn crisialu’r weledigaeth o b?er datganoledig, ac mewn gwrthbwynt llwyr i’r grym canolog a gynrychiolir gan y castell.