Gwyddoniadur

CAERDYDD Dinas a Sir (14,498ha; 305,353 o drigolion)


Lleolir Caerdydd, prifddinas Cymru, yng ngwaelodion deheuol Cwm Taf. Mae’n cynnwys 32 o gymunedau (gw. Cymuned a gw. isod). Gydag ehangu ffiniau’r ddinas yn 1996, cynhwyswyd rhywfaint o dir uchel oddi mewn iddi – Mynydd y Garth (307m) yw ei phwynt uchaf – ond saif y rhan helaethaf o’i hardal adeiledig lai na 50m uwchlaw lefel y môr. Ar gorsdir a llaid aberol y codwyd y ddinas yn bennaf, ond adeiladwyd ei maestrefi gogleddol ar Hen Dywodfaen Coch ac, i’r gogledd, fe’i cylchynir gan y bryniau Calchfaen Carbonifferaidd sy’n ymestyn o Ben-tyrch i Rydri. Ym Mhen-y-lan ceir craig Balaeosöig, y graig hynaf yn Sir Forgannwg.

Y fwrdeistref wreiddiol oedd plwyfi’r Santes Fair a Sant Ioan, ac ymestynnai dros 786ha. Gyda’r newid ffin yn 1875, 1922, 1938, 1951, 1967, 1974 ac 1996, tyfodd bron 18 gwaith ei harwynebedd gwreiddiol. Tynnwyd i mewn iddi 14 o blwyfi cyfagos; llyncodd y cwbl o gwmwd Cibwr, y mwyaf deheuol o’r tri chwmwd a ffurfiai gantref Senghennydd ac o’r herwydd awgrymwyd fod Cibwreg yn enw addas ar dafodiaith Gymraeg y ddinas.

Profa’r fwyell law a ddarganfuwyd ym Mhen-y-lan – bwyell a luniwyd o leiaf 75,000 o flynyddoedd yn ôl – fod bodau dynol yn yr ardal o gyfnod pur gynnar. Tystia deunydd o’r Oes Neolithig a’r Oes Efydd i fodolaeth aneddiadau yn yr hen fwrdeistref ac o’i chwmpas ym milenia olaf y cyfnod cynhanesyddol. Ceir siambr gladdu fegalithig ger Creigiau, carneddau o’r Oes Efydd ar Fynydd y Garth a chaerau neu lociau o’r Oes Haearn ym Mhen-tyrch, Caerau a’r Eglwys Newydd.

Roedd Cwm Taf yn rhan o diriogaeth y Silwriaid, a oedd yn fygythiad parhaus i’r Rhufeiniaid hyd eu darostyngiad yn 70au’r ganrif gyntaf OC. Dichon mai adeg ymgyrchoedd 50au’r ganrif honno y codwyd y gyntaf o gaerau Rhufeinig Caerdydd. Ildiodd y gaer helaeth hon o bridd a choed ei lle i gaer lai c.OC 78; disodlwyd honno gan gaer newydd c.120. Adeiladwyd pedwaredd gaer Rufeinig yno c.280; fe’i codwyd mewn carreg ac roedd iddi arwynebedd o 3.7ha. Rhwng 1889 ac 1923 bu teulu Stuart, ardalyddion Bute, yn gyfrifol am ail-luniad ohoni. Er nad ydyw’r gwaith yn fanwl gywir – roedd y muriau gwreiddiol gryn dipyn yn is, a does dim tystiolaeth iddynt erioed gynnwys galeri furol – Caerdydd yw’r unig fan ym Mhrydain lle mae modd cael syniad credadwy o gaer Rufeinig. Y tu allan i’r gaer ceid anheddad sifil, cyfres o adeiladau hirsgwar ar y naill ochr a’r llall i’r hyn a fyddai yn ddiweddarach yn Stryd Fawr y ddinas. Cafwyd yno dystiolaeth o gynhyrchu haearn, fel y cafwyd yn Nhrelái, lleoliad unig fila Rufeinig Caerdydd, adeilad a ddefnyddid rhwng yr 2g. a’r 4g.

O’r darnau arian bath a ddarganfuwyd yn y gaer, perthyn y diweddaraf i deyrnasiad Gratian (367–83), sy’n awgrymu na fu defnydd arni wedi i Macsen Wledig amddifadu Britannia o’i garsiwn yn 383. Prin yw’r wybodaeth am Gaerdydd yn ystod y chwe chanrif ddilynol. Caerdyf  – ‘y gaer ar Daf’ – yw’r ffurf mewn Cymraeg Canol (rhoes hwnnw’r ffurf Seisnigedig Cardiff), ac mae’r affeithiad a achoswyd i’r sillaf olaf gan derfyniad genidol coll yn tystio bod yr enw yn deillio o’r Frythoneg. Erbyn yr 16g. trodd yr f ar ddiwedd yr enw yn dd, gan roi Caerdydd.

Yn yr Oesoedd Canol Cynnar roedd Caerdydd yn rhan o deyrnas Glywysing. A Glywysing yn ehangu, bathwyd yr enw Morgannwg (Gwlad Morgan) yn 665, neu efallai yn 974. Mae yng Nghaerdydd fan o’r enw Womanby (o’r Llychlyneg Hundemanby), ffaith a roddodd fod i’r gred fod gan y Llychlynwyr anheddiad yno, ond amheuir y gred honno bellach. Erbyn y 12g. Llandaf oedd prif ganolfan eglwysig Morgannwg; yn wahanol i’r enw Caerdydd (gw. uchod) dengys yr elfen taf mai i gyfnod y Gymraeg y perthyn yr enw hwn. Ceir yno groes gerfiedig o flynyddoedd olaf y 10g., prawf fod eglwys yn Llandaf cyn dyfod y Normaniaid, ond ni cheir tystiolaeth gadarn ei bod yn gadeirlan esgobol hyd 1119.

Erbyn hynny roedd yr ardal ym meddiant y Normaniaid. Bu Gwilym I yng Nghaerdydd yn 1081 a hwyrach mai yn y flwyddyn honno y codwyd mwnt oddi mewn i furiau’r gaer Rufeinig. Serch hynny, parhaodd Morgannwg dan reolaeth Gymreig hyd y 1090au, pan wnaeth Robert Fitz Hammo y mwnt yn ganolfan ei ymgyrch i’w choncro. Tua 1140 coronwyd y mwnt â th?r carreg; dringwyd ei furiau gan Ifor Bach yn 1158 pan herwgipiodd arglwydd Normanaidd Morgannwg. Yn y 13g. codwyd y T?r Du ym mur deheuol y gaer Rufeinig ac yn y 1430au bu cryn adeiladu ar hyd y mur gorllewinol.

Aeth tiriogaethau Fitz Hammo – Caerdydd a gwastadeddau Morgannwg – i’w fab yng nghyfraith, iarll Gloucester, noddwr Sieffre o Fynwy. Bu Morgannwg yn eiddo i ddisgynyddion yr iarll hyd nes iddi fynd trwy briodas i’r Brenin John (1183), ac yna i deuluoedd Clare (1214), Despenser (1314), Beauchamp (1399) a Neville (1445) yn eu tro. Daeth i feddiant y Goron yn 1471.

Meithrinodd arglwyddi Morgannwg y fwrdeistref a leolid i’r de o’r castell. Rhoddwyd siarter i’r bwrdeisiaid c.1125, a chawsant hawliau pellach yn 1340 ac 1431. Gyda’i dwy farchnad wythnosol, ei dwy ffair flynyddol, masnach cei y dref, ei swyddogaeth fel canolfan y gyfoethocaf o arglwyddiaethau’r Mers a nawdd rhai a oedd gyda’r grymusaf o aelodau’r bendefigaeth Seisnig, daeth cryn lewyrch i ran Caerdydd. Amgylchynwyd y dref â muriau; erbyn 1300 ceid oddi mewn iddi 421 o blotiau bwrdais, cartref o bosibl i c.2,200 o bobl. Bryd hynny, hi, yn ddiamau, oedd tref fwyaf Cymru. (Hwlffordd, gyda 360 o blotiau bwrdais, oedd y cystadleuydd agosaf.) Eglwys y Santes Fair oedd eglwys y plwyf. Roedd hefyd nifer o gapeli anwes, a’r tu allan i’r muriau safai brodordai’r Dominiciaid a’r Ffransisiaid (gw. Brodyr Cardod); Caerdydd oedd yr unig dref yng Nghymru a chanddi dŷ o eiddo’r naill urdd a’r llall. I’r dwyrain ceid maestref allfurol Crokerton, a thu draw iddi gorweddai maenor y Rhath – fferm gartref y castell i bob pwrpas – a thaeogdrefi Llanedeyrn, Llys-faen a Llanisien. Daliai esgob Llandaf diroedd helaeth i’r gorllewin o’r fwrdeistref, ac i’r gogledd – oddi mewn i ffiniau modern Caerdydd o drwch blewyn – roedd Castell Coch, a adeiladwyd gan deulu Clare tua diwedd y 13g., yn tra-arglwyddiaethu dros Geunant Tongwynlais. Ar ffin y Gaerdydd gyfoes ceir castell arall, sef Morgraig ar Fynydd Caerffili, a ystyrir naill ai yn un arall o gestyll teulu Clare neu yn gadarnle mwyaf deheuol Cymry Blaenau Morgannwg.

Yn 1316 cododd gwŷr y Blaenau mewn gwrthryfel, gwrthryfel a ddaeth i ben gyda dienyddiad Llywelyn Bren a’i gladdedigaeth ym mynwent y Brodyr Llwydion. Yn yr Oesoedd Canol Diweddar bu trai ar lewyrch Caerdydd. Yn wir, âi dros bum canrif heibio cyn y byddai gan y dref eto gynifer o drigolion ag a fuasai ganddi yn 1300. Bu’r Pla Du yn brofiad echrydus, a dioddefodd Caerdydd yn enbyd yn ystod Gwrthryfel Glynd?r. Yn 1404 fe’i llosgwyd gan ddilynwyr Owain; dim ond Tŷ’r Ffransisiaid a arbedwyd, a dienyddiwyd un o’u cefnogwyr hwy, John Sperhauke, am ddatgan ‘Oweyn Gleyndour est loial Prince de Galles’. Dros y ganrif ddilynol bu arglwyddi Caerdydd yn adeiladwyr brwd. Yn ogystal â’u gwaith ar y castell, hwy a fu’n gyfrifol am ailgodi Eglwys Sant Ioan gyda’i th?r hyfryd ac am godi t?r gogledd-orllewinol Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Mae’n debyg i’r gwaith yn Llandaf gael ei gomisiynu gan Siasbar Tudur (gw. Tuduriaid) a gafodd feddiant ar arglwyddiaeth Morgannwg yn 1486 gan ei nai, Harri VII. Yn sgil Deddf ‘Uno’ 1536 diddymwyd pwerau arglwyddi’r Mers a chrëwyd Sir Forgannwg gyda Chaerdydd fel ei chanolfan weinyddol. Dengys map Speed (1610) fod neuadd sirol wedi’i chodi erbyn hynny oddi mewn i ward allanol y castell. Mae’r map yn darlunio bwrdeistref fechan siap T, a’i muriau yn dal i sefyll. Yn edrych dros y cyfan roedd y castell, un o gartrefi teulu Herbert (Ieirll Pembroke). Cafodd y cyntaf o’r ieirll ei freinio yn 1547 â’r arglwyddiaethau ym Morgannwg a fu gynt yn eiddo i Siasbar Tudur. Erbyn hynny roedd nifer plotiau’r bwrdeisiaid wedi crebachu i 269. Cyfenwau Cymreig oedd gan 35% o’u deiliaid, awgrym fod mudo o gefn gwlad yn newid cymeriad ethnig poblogaeth y dref.

A hwythau’n ffafrio eu plasty yn Wiltshire, landlordiaid absennol oedd yr Herbertiaid, a mynd yn adfail a wnâi’r castell yn eu cyfnod hwy. Roedd gorlifiadau afon Taf yn broblem barhaus; tanseiliwyd Eglwys Santes Fair ganddynt; llwyr ddymchwelodd honno yn 1678 ac ni chodwyd adeilad yn ei lle hyd y 1840au. Er mai Caerdydd oedd tref weinyddol Morgannwg, roedd yn isel yn hierarchi drefol y sir erbyn diwedd y 18g. Trigai pum gwaith cymaint o bobl yn Abertawe; roedd Castell-nedd gryn dipyn yn fwy poblog; y Bont-faen oedd prif dref Bro Morgannwg ac allforid gwarged amaethyddol y Fro o borthladd Aberddawan (gw. Rhws). I Iolo Morganwg (Edward Williams), man ‘ansylweddol anadnabyddus’ oedd Caerdydd ac, yn ôl ymwelydd yn 1770, roedd ‘mwy o olion hynafol ynddi nag yn yr un o’r trefi eraill a welsom yng Nghymru’.

Yn 1704 aeth Caerdydd a’r arglwyddiaethau a gysylltid â hi o feddiant teulu Herbert i feddiant teulu Windsor, a hynny trwy briodas. Yn 1766 daeth y stad yn eiddo i deulu Stuart o ganlyniad i briodas Charlotte Windsor ag Arglwydd Mountstuart, mab y trydydd iarll Bute. Ni wnaeth Mountstuart – ardalydd cyntaf Bute (m.1812) yn ddiweddarach – fawr ddim â’r dref ac eithrio comisiynu Capability Brown i dirlunio parc y castell ac ailfodelu adeiladau’r mur gorllewinol mewn dull a oedd ‘yn dwyn i gof y carchar yn Rothesay’ (Ynys Bute).

Yn negawdau olaf y 18g. roedd Caerdydd ar drothwy gweddnewidiad. Gyda thwf rhyfeddol diwydiant haearn Merthyr Tudful, roedd angen agorfa i’r môr. Y dewis amlwg oedd Caerdydd, porthladd a leolid ar aber yr afon sy’n draenio ardaloedd cyfoethocaf maes glo’r de. Yn 1767 cydiwyd Caerdydd wrth Ferthyr gan heol addas ar gyfer wageni cludo haearn crai. Gyda system cludiant mor drafferthus, doedd dim argoel y datblygai masnach helaeth mewn glo, deunydd llawer llai gwerthfawr na haearn yn ôl ei swmp. Ys dywedodd un o swyddogion tollau Caerdydd yn 1782, ‘Ni allforir glo o’r porthladd hwn, ac ni chaiff ei allforio byth, gan ei bod yn rhy gostus i’w gludo yma o berfeddion y wlad’.

Newidiodd y sefyllfa yn 1798 gyda chwblhau Camlas Morgannwg (gw. Camlesi). Dechreuodd Caerdydd allforio glo, ond ar raddfa lawer iawn llai na’i chystadleuwyr, o leiaf hyd y 1840au. Yn 1833 allforiodd Abertawe a Chasnewydd ill dwy dair gwaith cymaint o lo ag a allforiwyd o Gaerdydd. Erbyn hynny, fodd bynnag, doedd dim amheuaeth ynglŷn â goruchafiaeth Caerdydd fel porthladd allforio haearn. Cynhyrchai de Cymru 40% o haearn crai Prydain ac, o’r allforion tramor Prydeinig, cariwyd bron eu hanner i lawr Camlas Morgannwg a’i gludo o Gaerdydd.

Rhoddodd adeiladu’r gamlas ‘hwb nodedig’ i’r dref. Yn y 1790au codwyd cwrs rasio ceffylau yno ac adeiladwyd pont newydd ar draws afon Taf; cafodd y dref ei gwasg, ei banc a’i thŷ coffi cyntaf, a sefydlwyd gwasanaeth coets dyddiol (gw. Coets Fawr) i Lundain. Serch hynny, dengys y cyfrifiad swyddogol cyntaf (1801) mai dim ond 1,870 o bobl a drigai yng Nghaerdydd; hi oedd y bumed ar hugain o ran maint ymhlith canolfannau poblogaeth Cymru. Dros yr 20 mlynedd dilynol ni fu unrhyw dwf dramatig yn ei maintioli; yn wir, mae cynllun o’r dref a luniwyd yn 1828 yn hynod debyg i gynllun Speed yn 1610.

Y degawd allweddol oedd y 1830au pan aeth yr ail ardalydd Bute ati, ar ei gost ei hun, i greu doc cerrig enfawr wrth geg afon Taf. Fe’i hagorwyd yn 1839 ac yn 1841 adeiladwyd Rheilffordd Cwm Taf a gysylltai’r doc â Merthyr (gw. Rheilffyrdd). Yn y degawdau canlynol adeiladwyd dociau eraill ac erbyn 1907, pan agorwyd Doc Alexandra, roedd bron 11km o lan cei yng Nghaerdydd, un o systemau dociau helaethaf y byd. Ehangwyd rhwydwaith y rheilffyrdd hefyd a daeth Caerdydd yn brif ganolfan allforio ar gyfer cynnyrch glo cymoedd Cynon, Rhondda a Rhymni yn ogystal â Chwm Taf. Y prif dirfeddiannwr yn y cymoedd hynny oedd stad Bute, ac roedd gorfodaeth ar ddeiliaid prydlesi’r stad i anfon eu glo i Gaerdydd, trefn a ehangodd ddalgylch y dociau ar draul eu cystadleuwyr.

Rhwng 1840 ac 1870 cynyddodd allforion glo Caerdydd o 44,350 i 2.219 miliwn o dunelli metrig, cymaint ag allforion glo Abertawe a Chasnewydd gyda’i gilydd a hanner hynny eto. Arweiniodd y twf at gynnydd aruthrol yn y boblogaeth – cymaint â 79% y degawd yn ystod y 30 mlynedd hynny. Erbyn 1871 roedd Caerdydd wedi goddiweddyd y cwbl o’i chystadleuwyr a siaradai ei thrigolion amdani fel y ‘metropolis Cymreig’. Doedd dim amheuaeth ei bod yn dref Gymreig gan fod y dylifiad o gefn gwlad, a oedd eisoes i’w ganfod yn y 1540au, wedi parhau yn y canrifoedd dilynol. Erbyn y 1830au dichon fod gan y mwyafrif o drigolion y dref wybodaeth o’r Gymraeg; yn 1838 mynnodd y gorfforaeth fod clerc y farchnad yn medru’r iaith ac, o’r saith capel Anghydffurfiol a oedd yng Nghaerdydd yn y flwyddyn honno, y Gymraeg oedd cyfrwng pedwar ohonynt. Hyd yn oed gyda thwf aruthrol y boblogaeth yn y degawdau canlynol, brodorion o Gymru oedd canran uchel o’r mewnfudwyr. Yn 1851 roedd 62.5% o drigolion y dref wedi’u geni yng Nghymru, 25.2% yn Lloegr a 10.87% yn Iwerddon; yn 1881 y ffigurau oedd 60.5%, 30.1% a 5.1%. At ei gilydd, hanai’r ymfudwyr Cymreig o Sir Forgannwg a Sir Fynwy, y Saeson o dde-orllewin Lloegr a’r Gwyddelod o swyddi Cork, Wexford a Waterford.

Arafodd twf y boblogaeth i gyfartaledd o 50% y degawd yn y 1870au a’r 1880au, cyfnod pan ddatblygodd Caerdydd, ys dywed Gwyn A. Williams, o ‘fod yn gyfrifdy i fod yn gymuned’. Dyna hefyd y cyfnod pan freiniwyd y dref â’r rhyfeddaf o’i nodweddion pensaernïol, sef y gwaith a gyflawnwyd gan William Burges yn y castell ar gais y trydydd ardalydd Bute. (Burges hefyd a oedd yn gyfrifol am yr ailadeiladu godidog yng Nghastell Coch.) Daeth dylanwad Burges yn elfen o bwys ym mhensaernïaeth Caerdydd, yn arbennig yn Heol y Gadeirlan. Roedd dylanwad stad Bute hyd yn oed yn fwy hollbresennol. Swyddogion y stad a gynlluniodd dwf y dref, gyda’i pharciau a’i thai urddasol, y rhan fwyaf ohonynt y tu allan i gyrraedd y dosbarth gweithiol (gw. Dosbarth); mae cyfran helaeth o enwau strydoedd Caerdydd yn coffáu’r teulu a’i eiddo, ac enwau ffermydd Bute yw enwau trwch ei hardaloedd. Byddai teulu tlotach wedi’i demtio i adeiladu ar barc y castell, ond sicrhaodd cyfoeth y Buteiaid fod canol Caerdydd yn wyrddach na chanol odid yr un ddinas arall yn Ewrop.

Cadarnhawyd statws Caerdydd fel prif dref deheudir Cymru pan benderfynwyd yn 1883 mai hi fyddai cartref coleg prifysgol y de, ergyd enbyd i Abertawe a phenderfyniad a ddathlwyd yng Nghaerdydd gyda bonllefau a goleuadau. Serch hynny, cyfnod o bryder i’r trefolion oedd y 1880au gan i’r bwriad i godi dociau yn y Barri fygwth ffyniant y dref; yn wir, proffwydodd David Davies, Llandinam (gw. Davies, Teulu (Llandinam)), prif hyrwyddwr cynllun y Barri, y byddai ei lwyddiant yn peri i laswellt dyfu yn strydoedd Caerdydd. Yn 1890, blwyddyn gyntaf llawn weithredu doc y Barri, allforiwyd 3.243 miliwn o dunelli metrig o lo o gymharu â’r 7.538 miliwn a allforiwyd o Gaerdydd. Buan y gwelwyd manteision y Barri, yr unig borthladd ar lan Môr Hafren y gall llongau ei gyrraedd a’i adael waeth beth fo cyflwr y llanw. Ymhellach, ni feichiwyd y Barri â hen ddyledion ac elwodd, yn ogystal, ar y ffaith fod ei chwmni dociau hefyd yn berchen y rheilffordd a wasanaethai’r porthladd. (Gwasanaethid Caerdydd, ar y llaw arall, gan o leiaf dri chwmni rheilffordd, rhai ohonynt â thraddodiad o elyniaeth tuag at stad Bute.) O 1901 ymlaen roedd mwy o lo yn cael ei allforio o’r Barri nag o Gaerdydd. Eto, roedd y galw byd-eang am lo mor fawr fel y parhaodd allforion glo Caerdydd i gynyddu, er nad mor gyflym â chynt. Cyrhaeddodd y ffyniant ei anterth yn 1913, pan allforiwyd 10.736 miliwn o dunelli metrig o lo.

Yn y rhan fwyaf o’r tablau ystadegol cynhwysir ffigurau’r Barri (a hefyd rai Penarth) o dan y pennawd Porthladd Caerdydd, ac felly mae modd i ran Caerdydd ei hun fel porthladd gael ei gorbwysleisio. Ac eto, mewn rhai ffyrdd, bu ffyniant rhyfeddol y Barri o fudd i Gaerdydd oherwydd yno y rheolid masnach lo’r dociau i gyd, a hynny o’r Gyfnewidfa Lo, yr adeilad rhwysgfawr a godwyd yn Sgwâr Mountstuart yn 1888. O’r flwyddyn honno ymlaen, yno y câi pris glo ar y farchnad Brydeinig – ac yn wir y marchnadoedd rhyngwladol – ei bennu. Erbyn y 1890au Porthladd Caerdydd oedd y mwyaf yn y byd o safbwynt swmp ei allforion. Ei lo oedd tanwydd y llynges Brydeinig; cyfrannodd at ddiwydiannu Ffrainc, Sbaen, yr Eidal, Brasil a Chile. Ddiwedd y 19g. a dechrau’r 20g. roedd i borthladdoedd Môr Hafren yr un pwysigrwydd wrth gyflenwi’r byd â ffynonellau gwres ac ynni ag y byddai gan Gulfor Persia ddiwedd yr 20g. Cafodd y ddêl filiwn-o-bunnau gyntaf yn y byd ei tharo yn y Gyfnewidfa Lo yn 1907. Wrth ysgrifennu’r ddrama Americanaidd gyntaf i ennill bri rhyngwladol, ni fedrai Eugene O’Neill feddwl am unrhyw deitl mwy cyffrous na Bound East for Cardiff.

Yn rhannol oherwydd cystadleuaeth o du’r Barri, arafodd twf poblogaeth Caerdydd i 28% yn y 1890au ac i 11% yn y 1900au. Yn ystod y degawdau hynny gwnaeth y dref – a gydnabuwyd yn fwrdeistref sirol yn 1888 – ymdrechion glew i bwysleisio ei phwysigrwydd. Yn 1898 talwyd £160,000 i ardalydd Bute am 24ha o Barc Cathays. Canlyniad y pryniad oedd un o ganolfannau dinesig godidocaf Prydain. Cwblhawyd Neuadd y Ddinas (1905) yr un pryd ag y dyrchafwyd Caerdydd yn ddinas, statws a enillwyd ganddi nid oherwydd ei bod yn ei haeddu o safbwynt maintioli ei phoblogaeth ond oherwydd nad oedd yr un dref fawr yng Nghymru, hyd hynny, wedi cael y fath ddyrchafiad. Daeth Caerdydd yn fwyfwy deheuig wrth ecsploetio ei safle fel ‘metropolis Cymru’. A hithau eisoes yn gartref coleg prifysgol y de, yr oedd erbyn 1914 hefyd wedi bachu’r Amgueddfa Genedlaethol, cofrestrfa Prifysgol Cymru a chnewyllyn yr hyn a fyddai’n Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru (gw. Coleg Meddygaeth, Bioleg, Gwyddorau Iechyd a Bywyd Cymru). Methodd â sicrhau’r Llyfrgell Genedlaethol gan fod prif sefydlydd y llyfrgell, John Williams (1840–1926), yn ystyried ei thrigolion yn ‘fwngrelod anghymreig’.

Roeddynt yn sicr yn gosmopolitan. Yn 1911, gyda 5,000 o’r trigolion wedi’u geni mewn gwledydd estron, roedd Caerdydd yn ail i Lundain yn unig yng nghyfartaledd ei mewnfudwyr tramor. Yn eu plith roedd Caribïaid, Affricaniaid, Chineaid ac Indiaid gan sicrhau bod yn ardal y dociau (Tre-biwt neu Tiger Bay) amrywiaeth gyfoethog o bobloedd. Ymysg y rhain roedd lefel unigryw o uchel – mewn cymhariaeth â gweddill Prydain – o ryngbriodi rhwng mewnfudwyr gwrywaidd a menywod lleol. Roedd Tre-biwt yn gartref i gynrychiolwyr tua 57 o wahanol genhedloedd; yno gellid ‘gweld y byd mewn milltir sgwâr’, chwedl yr hanesydd lleol, Neil Sinclair.

Gadawodd y mewnfudwyr Gwyddelig eu marc, yn arbennig yn Grangetown (Trelluest) ac Adamsdown (Waunadda), ac oherwydd mewnfudwyr hefyd o Loegr – dros 20% o’r boblogaeth yn gyson dros chwe degawd – aeth y trigolion yn llai Cymreig a Chymraeg. Roedd nifer y Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd, 22,515 yn 1891, wedi’i haneru erbyn 1911, er i bentrefi fel Gwaelod-y-garth a Phen-tyrch, a fyddai yn y pen draw oddi mewn i ffiniau’r ddinas, barhau yn gwbl Gymraeg. Eto i gyd, roedd gwladgarwch Cymreig yn ffactor o bwys, gydag Edward Thomas (Cochfarf) yn arweinydd deheuig ar Gymrodorion Caerdydd. Ymhellach, gellid canfod gwladgarwch Gymreig Caerdyddaidd, yn arbennig ym myd chwaraeon. Yr amrywiaeth o bobloedd a roddodd fod i acen y ddinas, sy’n ddyledus i’r Wenhwyseg, Iwerddon a de-orllewin Lloegr; mae’n ‘torri trwy synwyrusrwydd y clyw fel gwifren trwy gaws’. (D. Smith, 1984).

Ar drothwy’r Rhyfel Byd Cyntaf roedd Caerdydd yn llawn hyder. Yn ystod y rhyfel bu lleihad ym masnach y dociau, ond cryfhawyd seiliau diwydiannol y ddinas, yn arbennig trwy ehangiad y gwaith dur yn East Moors a sefydlwyd gan Gwmni Dowlais yn 1890. Wedi’r rhyfel, ac Ewrop yn wancus am lo, profodd Caerdydd dwf economaidd cwbl ryfeddol, er nad oedd y llewyrch heb ei densiynau fel y tystia terfysgoedd hiliol 1919. Roedd 57 o gwmnïau llongau yn y ddinas yn 1919, a’r rheini’n berchen ar 213 o longau, ffigurau a gododd i 150 a 500 yn 1921. Cronnwyd ffortiynau enfawr, a chyda’r perchnogion yn awchu am deitlau, cyfeiriwyd at Gaerdydd fel ‘the city of the dreadful knights’. Daeth diwedd ar y ffyniant yn 1922; a’r byd yn fwyfwy amharod i brynu glo Cymru, roedd masnach y dociau yn 1936 yn hanner yr hyn a fuasai yn 1913, a rhwng y rhyfeloedd ni fu odid ddim twf ym mhoblogaeth y ddinas. Serch hynny, cadarnhawyd safle Caerdydd fel prifddinas de facto Cymru. Daeth yn lleoliad cadeirlan fetropolitanaidd y Catholigion yn 1916; sicrhaodd Gofgolofn Rhyfel Genedlaethol Cymru yn 1928 (gw. Cofebau Rhyfel) a daeth yn ganolfan darlledu Cymru yn 1937, datblygiad a arweiniodd yn ddiweddarach at ei bri fel dinas y cyfryngau. Yn gynyddol, fe’i cydnabuwyd fel prif ganolfan byd chwaraeon yng Nghymru; er i ambell gêm rygbi ryngwladol gael ei chwarae yn Abertawe (yn 1954 y bu’r olaf), enillodd Caerdydd lwyr oruchafiaeth yn y pen draw.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd dioddefodd Caerdydd gryn ddifrod trwy fomio, gydag Eglwys Gadeiriol Llandaf ymhlith yr adeiladau a andwywyd. Fel yn y Rhyfel Mawr, cryfhawyd seiliau diwydiannol y ddinas, yn arbennig oherwydd nifer ei ffatrïoedd arfau. Wedi’r rhyfel, amhosibl bron oedd cynnal buchedd aristocratig; yn 1947 daeth y cysylltiad gyda theulu Bute i ben pan gyflwynodd y pumed ardalydd y castell a’r parc i’r ddinas. (Roedd dociau Bute wedi dod yn rhan o Gwmni Rheilffordd y Great Western yn 1922 ac aeth y prydlesau trefol i gwmni Western Ground Rents yn 1938.) Yn 1955 cydnabuwyd Caerdydd yn brifddinas Cymru, penderfyniad a ddeilliodd o’r ffaith fod ynddi etholaethau ymylol Ceidwadol yn hytrach nag ymateb i gorff clir o syniadau ynglŷn â swyddogaethau prifddinas Gymreig.

Eto i gyd, dros y degawdau canlynol daeth statws Caerdydd fel prifddinas yn fwyfwy ystyrlon. Yn 1958 cynhaliwyd Gemau’r Gymanwlad yno. Yn 1964 daeth yn gartref y Swyddfa Gymreig, datblygiad a arweiniodd at wneud y ddinas yn bencadlys nifer fawr o sefydliadau cenedlaethol yn amrywio o Gyngor Celfyddydau Cymru i Gyngres Undebau Llafur Cymru, ac o Sefydliad Chwaraeon Cymru i’r Academi Gymreig. Ynghlwm wrth y datblygiadau hyn roedd mesur o ail-Gymreigio; erbyn 2001, pan oedd gan y ddinas ddwsin o ysgolion cynradd Cymraeg eu cyfrwng, roedd dros 10% o holl Gymry Cymraeg Cymru yn byw o fewn 20km i Gaerdydd, o gymharu â llai na 5% rhyw 40 mlynedd ynghynt. Y flwyddyn honno roedd gan 16.31% o drigolion Caerdydd ryw fesur o afael ar y Gymraeg, gyda’r canrannau’n amrywio o 27.53% ym Mhen-tyrch i 12.44% yn Hen Laneirwg; roedd 8.75% o drigolion y sir yn gwbl rugl yn yr iaith.

Cyd-ddigwyddodd twf y ddinas fel canolfan weinyddol gyda phroses o ddad-ddiwydiannu, proses y bu cau gwaith dur East Moors yn 1982 yn symbol cliriach na dim ohoni. Cyd-ddigwyddodd hefyd gydag ailgartrefu cyfran uchel o aelodau dosbarth gweithiol y ddinas, ymgyrch a ddechreuasai gyda’r adeiladu yn Nhrelái o 1928 ymlaen. Dymchwelwyd rhannau helaeth o’r Sblot a diberfeddwyd Tre-biwt. (‘Breuddwyd pa bensaer,’ gofynnodd Neil Sinclair, croniclydd Tiger Bay, ‘a grëodd ein hunllef ni?’) Crëwyd stadau enfawr yn Llanrhymni, Trelái, Caerau a Llaneirwg, datblygiad nad oedd heb ei broblemau fel y tystia’r terfysgoedd yn Nhrelái yn 1991. Gyda chrebachiad y dociau a’u diwydiannau, achubwyd yn y 1980au ar y cyfle i roi cychwyn ar gynllun uchelgeisiol i ailddatblygu Tre-biwt, neu Fae Caerdydd a defnyddio’r enw a oedd yn prysur ennill ei blwyf. A’r cynllun yn cynnwys morglawdd ar draws aberoedd afonydd Taf ac Elái, crëwyd llyn helaeth ger Pierhead. Yr adeilad mwyaf rhwysgfawr i’w godi yng Nghaerdydd yn negawdau olaf yr 20g. oedd Stadiwm y Mileniwm ym Mharc yr Arfau, a adeiladwyd mewn pryd i gystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999. Siomedig oedd datblygiadau yn y Bae i ddechrau, a chwalwyd y cynlluniau i godi tŷ opera yno. Ond derbyniwyd cynllun amgen yn y man, ac agorodd Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004, adeilad a gynlluniwyd gan benseiri Cymreig, fel man ar gyfer perfformio opera, dawnsfeydd a sioeau cerdd, ac fel pencadlys nifer o sefydliadau diwylliannol cenedlaethol.
 
Yn 1997 pleidleisiodd trigolion Caerdydd yn erbyn Cynulliad Cenedlaethol i Gymru o 55.63% i 44.37%. A thrigolion Abertawe wedi pleidleisio o’i blaid, gwnaeth y ddinas honno gais brwd i fod yn gartref i’r Cynulliad. Wedi brwydr chwerw Caerdydd a orfu, ac agorodd y Cynulliad yn Nhŷ Crucywel, Tre-biwt, yn 1999. Agorwyd adeilad urddasol newydd y Cynulliad, gwaith Partneriaeth Richard Rogers, ym Mae Caerdydd yn 2006. Mae presenoldeb y Cynulliad yn rhoi ystyr lawnach i statws Caerdydd fel prifddinas Cymru.

Cymunedau Caerdydd

ADAMSDOWN (Waunadda)
(107ha; 6,850 o drigolion)
Mae’r gymuned hon yn union i’r dwyrain o’r hen fwrdeistref, a’i rhwydwaith clòs o strydoedd yn cynrychioli twf cynharaf Caerdydd y tu draw i ffiniau plwyfi Sant Ioan a’r Santes Fair. Oddi mewn iddi ceir Carchar Caerdydd, yr hen Ysbyty Brenhinol ac eglwys ysblennydd Sant German (1884).

CAERAU (294ha; 10,189 o drigolion)
Bu’n blwyf gynt, gydag eglwys hynafol sydd bellach yn adfail trist. Ei ffiniau yw afon Elái, Heol y Bont-faen a’r A4232. Stadau tai sydd yno’n bennaf, ond ceir hefyd gaer 5ha o’r Oes Haearn a seiliau fila Rufeinig.

Y CASTELL (172ha; 189 o drigolion)
Dyma galon yr hen dref, a chynhwysa’r rhan helaethaf o hen blwyf Sant Ioan. Ymestynna o’r Gored Ddu (Blackweir) hyd arglawdd y rheilffordd i’r de o Heol Eglwys Fair, ac oddi mewn iddi saif Parc Biwt, Parc Cathays, y castell, Stadiwm y Mileniwm a chanol masnachol y ddinas.

CATHAYS (163ha; 13,751 o drigolion)
Deillia ail elfen yr enw o’r Hen Saesneg (ge)haeg (gwrych), a rhoddwyd yr enw i ddarn o dir i’r gogledd-ddwyrain o’r hen fwrdeistref. Yn wreiddiol, Parc Cathays – lleoliad canolfan ddinesig Caerdydd bellach – oedd gerddi Plas Cathays, tŷ a godwyd i ardalydd cyntaf Bute. Mae’r gymuned bresennol yn rhwydwaith clòs o strydoedd, gyda myfyrwyr yn ganran uchel o’r boblogaeth.

CYNCOED (327ha; 10,030 o drigolion)
Maestref foethus o dai dosbarth canol a godwyd yn y 1920au a’r 1930au yw’r gymuned hon sydd hefyd yn cynnwys Llyn y Rhath a luniwyd yn 1889.

YR EGLWYS NEWYDD (Whitchurch) (428ha; 13,628 o drigolion)
Yn sgil sefydlu gwaith tunplat Melingriffith yn 1749 datblygodd yr Eglwys Newydd yn bentref sylweddol. Erbyn diwedd y 19g. roedd yn un o brif faestrefi Caerdydd, ond dim ond yn 1962 y tynnwyd yr ardal oddi mewn i ffiniau’r ddinas. Yma y mae Ysbyty Meddwl Caerdydd, adeilad enfawr ar gynllun saethben a gwblhawyd yn 1903. I’r gogledd o’r ysbyty saif Parc Gwledig Fferm y Fforest, sy’n cynnwys yr unig ddarn o Gamlas Morgannwg sydd wedi goroesi oddi mewn i ffiniau Caerdydd.

GABALFA (127ha; 7,619 o drigolion)
Deillia’r gair o ‘ceubalfa’ (lleoliad y fferi), ac mae’n dwyn i gof fferi a oedd gynt yn croesi afon Taf. Bellach fe’i hadwaenir yn bennaf oherwydd ei chroesffordd gymhleth.

GRANGETOWN (Trelluest) (425ha; 14,367 o drigolion)
Yn 1850 yr unig adeilad ar y penrhyn hwn rhwng afonydd Taf ac Elái oedd ffermdy, canolbwynt graens (grange) a fu’n eiddo i fynachlog Margam o c.1200. Fe’i datblygwyd fel maestref ddosbarth gweithiol gan deulu Windsor-Clive. Dyma oedd cadarnle poblogaeth Wyddelig Caerdydd a chefnogwyr tîm pêl fâs y ddinas.

HEN LANEIRWG (Old St Mellons) (339ha; 2,279 o drigolion)
Yn 1996 rhannwyd cymuned Llaneirwg yn Bontprennau a Hen Laneirwg. Gwlad agored yn bennaf yw’r olaf, gydag ambell dŷ moethus ar hyd Heol Began. Mae’r trigolion yn trysori’r ansoddair ‘Hen’ gan ei fod yn eu gosod ar wahân i stadau tai Trowbridge a Llanrhymni – ardaloedd a adweinir yn aml fel Llaneirwg; tynnodd John Redwood, ysgrifennydd gwladol Cymru (1993–5), nyth cacwn yn ei ben pan ddisgrifiodd y stadau hynny fel trigfan mamau sengl yn byw ar gardod y wladwriaeth.

LLANDAF (255ha; 8,988 o drigolion)
Dyma ganolfan esgob esgobaeth Anglicanaidd Llandaf. Hawliai statws dinas er nad ydoedd, hyd at ddegawdau olaf y 19g., nemor mwy na phentref bychan. Roedd y plwyf yn helaeth, yn ymestyn o Grangetown (Trelluest) i Fynydd Caerffili ac yn cynnwys y rhan fwyaf o’r hyn sydd bellach yn Gaerdydd i’r gorllewin o afon Taf. Yn wreiddiol roedd yr Eglwys Gadeiriol, a saif mewn pant ar lan yr afon, yn eglwys syml 8.5m o hyd. O’r ailadeiladu a fu ddechrau’r 12g. ni oroesodd unrhyw beth ond bwa’r gysegrfa, esiampl wych o’r arddull Romanésg. Mae bwâu’r gangell a chorff yr eglwys yn dyddio o ddechrau’r 13g., y gysegrfa a Chapel Mair o ddiwedd y 13g. a’r t?r gogledd-orllewinol o ddiwedd y 15g. Wedi hynny dioddefodd yr adeilad dros dair canrif o esgeulustod; syrthiodd to corff yr eglwys, dadfeiliodd muriau’r corff bron yn llwyr a dymchwelodd y t?r de-orllewinol. Yn 1752 codw
&