Gwyddoniadur Cymru

Yn cyflwyno Gwyddoniadur arbennig i Gymru

Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig           The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales


Wedi deng mlynedd o ymchwilio, ysgrifennu a golygu dwys, mae gan Gymru ei Wyddoniadur ei hun, Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, sy’n ymuno â Gwyddoniaduron yr Alban a’r Iwerddon fel dathliad o orffennol a presennol Cymru.  Gyda dros pum mil o gofnodion wedi eu hysgrifennu gan dros bedwar cant o gyfranwyr a dros pum cant o luniau lliw a du a gwyn, mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, sy’n ymestyn i 838,152 o eiriau dros 1,112 o dudalennau yn gyfeirnod manwl a heb os yn un o’r llyfrau mwyaf pwysig i gael ei gyhoeddi mewn hanes Cymru.  Bydd y cyfrolau Cymraeg a Saesneg yn cael ei lansio yn swyddogol yn y Senedd ar ddydd Gwener 1 Chwefror.  Ewch yma am fwy o fanylion ac i ddarganfod mwy o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r lansiad arbennig hwn.

Mae’r gwaith yn ganlyniad i brosiect deng mlynedd yr Academi, sydd wedi ei gyhoeddi gan Gwasg Prifysgol Cymru a’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy grant Loteri sylweddol. Mae’r tîm ymchwilio yn cynnwys pedwar o academyddion mwyaf blaenllaw Cymru, Dr John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch.

Ceir popeth rhwng cloriau’r llyfr gwych hwn: o Eryri i’r pampas ym Mhatagonia, o’r beirdd hynafol i’r Super Furry Animals cyfoes, o arwyr y werin i gampwyr Olympaidd Cymru, a dynion a menywod o Gymru sydd wedi rhagori mewn celfyddyd, diwylliant, masnach a gwleidyddiaeth.

A wyddoch chi bod cloc Big Ben wedi ei enwi ar ôl g?r y Fonesig Llanofer, Benjamin Hall, o Llanofer yn Sir Fynwy?

A wyddoch chi fod yr arwydd hafal ‘=’ wedi cael ei ddyfeisio gan Robert Recorde, o Ddinbych-y-Pysgod, yn y 1540au?
Neu mai Rheolau Queensberry bocsio gafodd eu drafftio gan Gymro, JG Chmabers o Lanelli (1843-83)?

A wyddoch chi bod y corridor hiraf yn Ewrop yn Ysbyty Llandoch, ger Caerdydd?
Neu mai Llanbedrog yn Ngwynedd sydd â’r oedran uchaf ar gyfartaledd yng Nghymru – 52.11 o flynyddoedd? Neu mai Galeri Mostyn, Llandudno, a agorodd yn 1901, oedd y galeri celf cyntaf yn y byd i’w adeiladu yn benodol i arddangos gwaith menywod?

Dywedodd yr Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, "Mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yn dod a gwahanol agweddau o ddiwylliant a hanes Cymru mewn ffordd nad yw’r un gyfrol arall o’i fath wedi gwneud o’r blaen.  Mae’n gamp aruthrol, deng mlynedd a llawer o bobl ynglwm â’r prosiect ac mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch iawn yn fod yn brif arianwr a chefnogwr y prosiect."

Yr Athro John DaviesMae’r broses o gynhyrchu llyfr o’r maint hwn yn golygu tua 280 o oriau o argraffu ar gyfer y testun yn unig, gan ddefnyddio dwy wasg yn ddi-dor am wyth diwrnod.  Yna rhaid casglu a rhwymo pob un o’i 69 o adrannau – dyna bum diwrnod arall.  Yn dilyn hyn bydd y gwaith o bwytho dros filiwn o adrannau yn cymryd saith diwrnod i ddau bwythwr cyflym.  Bydd y gyfrol derfynol yn pwyso 3 kilo.

Dywedodd Ashley Drake, Cyfarwyddwr, Gwasg Prifysgol Cymru, "Mae cyhoeddiad Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yn nodi carreg filltir mewn hanes Cymru ac eto yn arwydd arall bod Cymru yn dod i oed fel cenedl.  Rhaid i bob cenedl hunanbarchus gael cyfeirnod terfynol i ddogfennu a dathlu ei llwyddiannau, ei phobl ai chyfraniad i’r byd.  Mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yn darparu hynny i’n cenedl balch ac angerddol ac yn darparu llun cyfan o beth a pwy ydym ni. "

Dywedodd Prif Weithredwr Academi, Peter Finch, "Dyma, mwy na thebyg, yw’r llyfr mawr olaf i ddod o Gymru cyn i’r chwyldro ddigidol ein llyncu ni gyd.  Mae’n rhywbeth i bawb i fwynhau, i edrych drwyddo, ac i gadw. "

Mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig hefyd wedi derbyn geiriau o gefnogaeth gan nifer o enwogion Cymru, rhai sydd wedi cael eu nodi yn y cyhoeddiad, gan gynnwys y canwr Tom Jones, athletwraig Tanni Grey-Thompson, beicwraig Nicole Cooke a Mike Ruddock.

Dywedodd Syr Tom Jones, "Mae’n fraint o’r mwyaf i gael fy nghrybwyll yn y ffynhonnell wybodaeth arbennig hon.  Er fy mod yn byw yn yr Unol Daleithiau ac yn teithio ar draws y byd, rwy’n Gymro i’r carn, ac rwy’n sicr y byddaf yn dysgu amrywiaeth o ffeithiau diddorol am fy ngwlad enedigol a’i phobl drwy ddarllen y Gwyddoniadur yn ogystal â bod yn anrheg ddelfrydol i ffrindiau ledled y byd sydd am wybod mwy am Gymru.  Fel cenedl, rydym yn enwog am ein cerddoriaeth a’n cantorion, a llawer ohonynt heb gael cydnabyddiaeth teilwng am eu talentau.  Fe fydd y Gwyddoniadur yn gwneud yn iawn am hyn gan ddarparu ffynhonnell ysgrifenedig am gyraeddiadau ffigyrau’r gorffennol a’r presennol er budd gwybodaeth y cenedlaethau i ddod.  Rwy’n falch iawn o gael dweud fy mod i wedi fy nghynnwys ar dudalennau Gwyddoniadur Cymru!"

Dywedodd Y Fonesig Tanni Grey Thompson, "Mae’n fraint i gael eich cydnabod mewn unrhyw ffordd, ac mae cael fy nghrybwyll yn y cyhoeddiad arbennig hwn yn fy ngwneud yn falch iawn.  Mae athletau wedi chwarae rhan flaenllaw iawn yn fy mywyd, ac mae cael cofnod penodol o hanes ac unigolion amlwg dros y blynyddoedd yn y gamp yng Ngwyddionadur Cymru yn rhywbeth i’w ddathlu."

Dywedodd Nicole Cooke, "Mae’n anrhydedd cael fy nghynnwys yn y Gwyddoniadur ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn iddo gael ei gyhoeddi er mwyn i mi allu prynu copi fy hun ym mis Ionawr."

Dywedodd Mike Ruddock, "Fel Cymro balch, mae’n fraint o’r mwyaf cael fy nghrybwyll yn y ffynhonnell wybodaeth arbennig hwn.  Roedd ennill y Gamp Lawn nid yn unig yn ddigwyddiad y gallai’r chwaraewyr a’r tîm rheoli ymfalchïo ynddo, ond hefyd pob Cymro angerddol drwy’r wlad - ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi cael ei gofnodi yn y cyhoeddiad hanesyddol hwn.  I nifer o bobl mae rygbi fel symbol o hunaniaeth Gymreig, ac rwy’n sicr y bydd yr adran rygbi yn y Gwyddoniadur yn boblogaidd iawn ac edrychaf ymlaen yn fawr at ei gyhoeddiad!"

Bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r gyfrol ar werth am bris o £65.  Gallwch archebu drwy’r wefan yma, drwy ffonio llinell Archebu Gwyddoniadur Gwasg Prifysgol Cymru ar 029 2055 7451 neu gan eich llyfrwerthwr lleol.