Hwb i’r crysau cochion
"Tydi carfan Lloegr ddim yn codi ofn arnaf"

Dyna ddywedodd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wrth annog ei chwaraewyr i fanteisio ar y cyfle prynhawn Sadwrn i sicrhau buddugoliaeth cyntaf i Gymru yn Twickenham ers ugain mlynedd. "Fe ddylai’r chwaraewyr gredu y gallan nhw sicrhau canlyniad yno", ychwanegodd.
Yn sicr, mae gan blant Cymru ffydd yn y tîm i "ymladd yn ffyrnig" yn erbyn Lloegr yn ogystal â’r Alban, yr Eidal, Iwerddon a Ffrainc yn ngêmau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae’r crysau cochion wedi ysgogi sawl ysgol i roi hwb barddonol i’w tîm. Dyma cerddi gan rai ysgolion a ysgrifenwyd mewn gweithdai gyda Bardd Plant Cymru, Caryl Parry Jones:
Cerdd Ysgol Syr Thomas Jones
Tri o’r gloch
A’r gelynion dros dro
Yn barod am y frwydr
“Sosban Fach” yn berwi yn dorf,
A’r Môr coch yn gwrthod gwahanu.
Ar yr asgell
Mae’r hebog yn barod i hedfan,
Mae’n ysu am ei ysglyfaeth,
Yn hofran o amgylch
Cwlwm cyrff cryf,
Anifeiliaid yn gwledda ar y bêl bwysig
Mae’r hebog yn paratoi ei lwybr
Yn canolbwyntio
Ac yn aros……..
Yn sydyn,
O wledd farus y llewod
Mae’r ysglyfaeth yn dianc,
Ond mae’r hebog yn ei gipio yn ei gesail.
Mae’n fellten fachog,
Yn llewpart lloerig
Yn igam-ogamu’n egnïol,
Yn dawnsio’n llawen rhwng y cewri hanner-call,
Ac ar y llinell mae’r llamhidydd yn llamu
I fôr o ddathlu.
Ysgol Syr Thomas Jones
Gavin Henson
Llew yn llamu
Ac yn rhedeg fel y gwynt
I ben pella’r cae.
Panther cyhyrog cryf
Yn cwffio yn y cit coch.
A tharanau’r dorf
Yn storm o swn.
Ysgol y Borth, Porthaethwy
Stephen Jones
Y llewpart llawen,
Yn llamu,
Subaru y Scarlets,
Y cawr coch cryf,
Yn y canol,
Llwynog y Strade
Yn twyllo’r tîm arall
A’r Cymro c?l yn arwr.
Blwyddyn 5 a 6
Ysgol Penboyr
Coch
Fflamau’r ddraig yn berwi’r pair
Yn poeri gwres i bob cyfeiriad,
O’i cheg anferthol daw’r nerth i’r fyddin goch,
Calonnau yn curo fel drymiau gwyllt
Pob baner yn chwifio cyffro
A phob un yn dal llygaid yr arwyr
Sy’n barod i ymladd yn ffyrnig
Chwiban,
Cic,
Daliad,
Rhediad,
Tacl,
Pas,
Pas,
Pas.
Pas.
CAAAAIS!
Y Pair yn ffrwydro
Gwreichion yn tasgu,
Cefnogwyr yn wyllt wrth weiddi,
“CYYYMRUU”
…am byth!
Blwyddyn 5, Ysgol Y Berllan Deg
Coch
Mae’r faner goch yn chwifio fry
I’r bois sy’n brwydro drosom ni,
Mae’r dorf yn canu’r anthen yn gry
A’r ddraig yn rhuo i ti a mi.
Mae’r tân yn llenwi’r maes i gyd,
Wynebau cochion yn chwysu o hyd,
Does dim arall yn y byd
Sy’n gallu dod â ni ynghyd
Mae gwaed yn berwi wrth i ni frwydro
A’r dorf fel dreigiau gwyllt yn rhuo,
Y fflamau coch i gyd yn rhuthro
Drwy’r wythennau’r pair, sy’n ffrwydro
Mae’r pwyntiau ar y bwrdd yn codi
A’r galon goch yn gweiddi “Cymru!”,
Un cais arall, mae’r lleisiau ‘n gweiddi…
Mae Cymru i gyd yn gwenu heddi.
Ysgol Pwll Coch
Dilynwch y crysau cochion ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad:
Lloegr v Cymru Sadwrn 2 Chwefror 4.30pm (Twickenham)
Cymru v Yr Alban Sadwrn 9 Chwefror 2.00pm (Stadiwm y Mileniwm)
Cymru v Yr Eidal Sadwrn 23 Chwefror 3.00pm (Stadiwm y Mileniwm)
Iwerddon v Cymru Sadwrn 8 Mawrth 1.15pm (Croke Park)
Cymru v Ffrainc Sadwrn 15 Mawrth 5.00pm (Stadiwm y Mileniwm)
I ddarllen mwy o gerddi a ysgrifenwyd gan blant Cymru mewn gweithdai gyda
Bardd Plant Cymru, cliciwch yma.


