Draig Gampus
DRAIG GAMPUS (15 Mawrth, 2008)

O frwydr Cwpan Rygbi’r Byd
Trist odiaeth fu’r dychwelyd –
Y Ddraig yn llipa, glwyfus
A’i Chymru hi’n drallodus.
Ond cododd hi o’i phydew du
Yn dân i gyd, a threchu
Yn wrol, nerthol, rymus -
A’i Chymru’n orfoleddus.
Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru
Am wybodaeth ar y cynllun Bardd Cenedlaethol Cymru cliciwch yma


