Blwyddyn Darllen 2008

Y Barri a Llanelli i arwain Cymru fel ‘Trefi Darllen’

Blwyddyn darllen 2008

Dewiswyd dwy o drefi Cymru ar gyfer her ddarllen arbennig fel rhan o Flwyddyn Darllen Genedlaethol 2008 yng Nghymru, bydd y ddwy yn cael £20,000 yr un i hyrwyddo’r ymgyrch ddarllen yn eu hardal leol.

Wedi i awdurdodau lleol gyflwyno ceisiadau cynhaliwyd proses ddethol drylwyr, a dewiswyd cymunedau’r Barri ym Mro Morgannwg a Llanelli yn Sir Gaerfyrddin i arwain y ffordd yng Nghymru. Bydd yr 20 awdurdod lleol arall yn cael £500 yr un i drefnu eu hymgyrchoedd cymunedau’n darllen.

Yn ystod yr ymgyrch, a arloeswyd yn America, bydd y ddwy gymuned yn dewis eu teitlau Cymraeg a Saesneg eu hunain i’w hyrwyddo ledled yr ardal. Yna, trefnir rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau i annog y cyhoedd i ddarllen a thrafod y llyfrau unigol.

Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, sydd yn cydlynu’r Flwyddyn yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru: “Derbyniom nifer o geisiadau gan awdurdodau lleol a oedd yn amlinellu eu cynlluniau i fod yn drefi darllen arweiniol. Roedd y ceisiadau yn cynnwys toreth o gynigion diddorol i godi ymwybyddiaeth am fanteision darllen ac i annog pobl o bob oedran a chefndir i estyn am lyfr ac i fwynhau’r pleser o ddarllen.’’

Dywedodd Jane Hutt y Gweinidog Addysg: "Mae datganiad heddiw yn newyddion gwych i’r ddwy dref, bydd yn eu galluogi i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau i ysgogi pobl o bob oedran i godi llyfr. Mae darllen yn un o sgiliau hanfodol bywyd, a chan y bydd cymaint o ddigwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru fel rhan o’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol, rwy’n siwr y bydd llawer mwy o bobl yn sylweddoli’r mwynhad a’r pleser y gellir eu cael o’r gair ysgrifenedig."

Bydd y Barri a Llanelli, o dan arweiniad cydlynwyr lleol, bellach yn lansio rhaglenni o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol, i annog pobl yn eu cymunedau lleol i ymuno â’r ymgyrch.

Bydd y ddwy Dref Darllen yn cydweithio’n agos gyda Chyngor Llyfrau Cymru i gyfrannu at weithgareddau cyffredinol y Flwyddyn Darllen yng Nghymru. Dywedodd Delyth Humphreys, Cydlynydd y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru: “Rydym yn awyddus i ddechrau gweithio gyda Llanelli a’r Barri ac roeddem yn falch iawn o glywed am rai o’u cynlluniau cyffrous i gynnwys y cyhoedd – mae’n argoeli’n wych i bawb!"