Anrhydeddu Alan Llwyd

Anrhydeddu Alan

 Alan Llwyd

Ychwanegwyd enw Alan Llwyd at restr Cymrodorion yr Academi. Enwebir cymrodorion gan Bwyllgor Aelodau’r Academi, a dim ond 15 sydd yn ddeiliaid yr anrhydedd hwn. Cydnabyddiaeth yw am gyfraniad neilltuol i lenyddiaeth yng Nghymru.   

Yn fardd, beirniad, cyhoeddwr a sgriptiwr, ganed Alan Llwyd yn Llan Ffestiniog. Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Bu’n gwethio mewn siop lyfrau yn y Bala, ac yna fel golygydd ar gyfer cwmni cyhoeddi a swyddog golygyddol ar gyfer Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, cyn ymgartrefu yn Abertawe yn olygydd amser-llawn gyda Barddas. Ef oedd yr ail fardd i ennill y Gadair a’r Goron ill dwy yn yr un flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddau achlysur. Yn ogystal â bod yn gyhoeddwr, yn olygydd ac yn weinyddwr gyda’r Gymdeithas Gerdd Dafod mae’n sgriptio’n rheolaidd ar gyfer Pobol y Cwm. Mae hefyd wedi ysgrifennu cyfrolau o feirniadaeth lenyddol, cofiannau a hunangofiant, ac wedi golygu sawl blodeugerdd o farddoniaeth. Ei waith ef oedd sgript y ffilm Hedd Wyn, a enwebwyd ar gyfer Oscar.

Mae ei gyfrol ddiweddaraf, Blynyddoedd y Locustiaid: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1919-1936 (Barddas, 2007), ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008. 

Y Cymrodorion Cymraeg yn llawn yw:

T. Llew Jones (Llywydd Anrhydeddus)
Jane Aaron
Tony Bianchi
Geraint Bowen
Hywel Teifi Edwards
Meredydd Evans
Katie Gramich
R Geraint Gruffydd
Emyr Humphreys
Dafydd Jenkins
Bobi Jones
Rhiannon Davies Jones
Gwyneth Lewis
Alan Llwyd
Gerallt Lloyd Owen
Gwyn Thomas