Goruwchnaturiol

Goruwchnaturiol

24 - 25 Ionawr 2009
Gellifawr, Cwm Gwaun, Sir Benfro
 

Yn y tir llwyd-dywyll hwnnw rhwng anghrediniaeth ac ofn y mae’r goruwchnaturiol yn bod. Yno’n llercian y mae hen, hen ddirgelion ofnadwy ein hil. Mae yna ddrychiolaethau ac arswydau a chysgodion…

Mae’r Academi wedi trefnu cynhadledd uniaith Gymraeg yn hud a lledrith Sir Benfro. Dewch i ymuno â llenorion, academyddion, llêngarwyr a chwedleuwyr am benwythnos a fydd yn sbecian ar yr hyn sydd tu ôl i’r llenni tywyll.

Dihangwch o’r byd go iawn am ddau ddiwrnod o drafodaethau, darlithoedd, straeon a barddoniaeth mewn awyrgylch cartrefol a chyfeillgar. Bydd y sesiynau’n edrych ar rym y goruwchnaturiol yn ein llenyddiaeth, gyda chyfle i fwynhau bwyd da, cerddoriaeth a chwmnïaeth gyda’r hwyr.

Pris y penwythnos:
£95 y pen (ystafell sengl) / £85 y pen (ystafell ddwbl)
(Yn cynnwys te a choffi, 4 pryd bwyd, mynediad i bob sesiwn yn y gynhadledd, a llety nos Sadwrn.)

Cysylltwch â’r Academi am ragor o fanylion: 029 2047 2266 / post@academi.org

Lleoliad

Cynhelir y gynhadledd ar ystâd brydferth Gellifawr yng Nghwm Gwaun, ychydig filltiroedd o draethau bendigedig Trefdraeth. Mae’r hen dŷ fferm traddodiadol wedi’i atgyweirio’n ofalus a’i droi’n westy cysurus gyda nifer o fythynnod hardd yn yr hen stablau.

Mae yna fwyty ardderchog sy’n gweini bwyd lleol a thymhorol, yn ogystal â bar cynnes gyda thân agored ac ystafell gyfarfod eang. Ewch i’r wefan www.gellifawr.co.uk am ragor o fanylion am y gwesty.