Lansiad 'Llwybrau'
Cyhoeddi 'Llwybrau' (Cyhoeddiadau Barddas), Haf Llewelyn

Nos Wener, 24 Gorffennaf, 7.30 pm
Gwesty'r Eryrod, Llanuwchllyn
Mae Cyhoeddiadau Barddas ac Awen Meirion yn estyn gwahoddiad i chi ddod i ddathlu
cyhoeddi Llwybrau gan Haf Llewelyn.
Dyma ddywed Haf am ei chyfrol:
"Casgliad o gerddi am destunau amrywiol - am bethau sy'n fy nghyffwrdd i fel merch a fagwyd yn Ardudwy - mae llawer iawn ohonyn nhw am y gymdeithas amaethyddol y cefais fy magu ynddi, a dylanwad hanes a daearyddiaeth yr ardal arnaf. Nid oes yma ddim byd mawr na chymhleth - cerddi personol ydyn nhw, dim ond fy argraffiadau personol i. Dechreuais farddoni drwy fynd i wersi cynganeddu Swel - Y Prifardd Elwyn Edwards, ond ar y pryd wnes i ddim gafael yn y gynghanedd - dim ond creu telynegion. Dim ond yn ddiweddar y dechreuais gynganeddu ac unwaith eto diolch i Swel am ei gefnogaeth. Mae nifer fawr o'r cerddi wedi eu creu ar gyfer talyrnau neu ymrysonau, a diolch i eiriau caredig Gerallt Lloyd Owen ar y Talwrn, roedd y cyfle hwnnw yn sicr yn hwb ymlaen".
Yn ogystal â cherddi newydd, mae'r gyfrol yn llawn lluniau gwreiddiol gan Iola Edwards, hefyd o Lanuwchllyn.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â
Elwyn Edwards 01678 520 378: bodaeron@btinternet.com neu
Awen Meirion 01678 520 658: siop@awenmeirion.com
Gwerthfawrogir ateb erbyn 20 Gorffennaf, 2009



