Ar Gyfer Awduron

Blingo a Chafflo – Cyhoeddi am Arian

Y drefn a dderbynnir yn y byd cyhoeddi yw y dylai awduron gael eu talu am y gwaith a wnânt. Yn achos llyfrau gall hyn olygu unrhyw beth o un ffi i freindal ar sail canran o’r elw ariannol ar gopïau a werthir. Yn achos ymddangosiadau mewn cylchgronau gall olygu tâl fesul gair a gyfrennir neu un swm. Weithiau telir ymlaen llaw ond yn fwy arferol telir ar ôl cyhoeddi. Yn achos gweisg bychain (ac yn arbennig cylchgronau barddoniaeth bychain) telir i’r cyfrannwr yn aml ar ffurf tanysgrifiad am ddim neu hyd yn oed gopi cyfarch o’r rhifyn perthnasol. Yn aml cyhoeddir llyfrau gweisg bychain ar yr un sail. Yr hyn na ddylai ddigwydd, wrth gwrs, yw i arian symud yn y cyfeiriad arall. Ni ddylid gofyn i awduron helpu i dalu costau cyhoeddwyr. Os bydd rhywun yn gofyn ichi am help yn y ffordd honno, fel benthyciad, buddsoddiad neu ’gymorth tuag at gostau argraffu’ yna byddwch yn amheus. Peidiwch â thalu. Edrychwch yn fanwl ar y cytundeb a gynigir. Mae’n debygol iawn mai cynllwyn ’porthi balchder’ o ryw fath fydd hwn. Gwrthodwch.

Mae yna gyhoeddwyr diegwyddor sy’n cymryd arian gan awduron diniwed trwy gynnig naill ai gynnwys eu gwaith mewn blodeugerddi neu gyhoeddi cyfrolau cyfan. Codant grocbris am eu gwasanaethau a phrin y bydd eu cynnyrch terfynol yn werth y papur y ccaiff ei argraffu arno. Dyma’r gweisg porthi balchder. Mae golygyddion papurau newydd, beirniaid a llyfrwerthwyr fel ei gilydd yn eu dilorni. Does neb yn darllen eu cynnyrch. Y casgliad mwyaf a welais i erioed oedd un mewn sgip y tu allan i Lyfrgell Ganolog Caerdydd. Peidiwch â chael eich twyllo gan eu gwên deg. Gwrthodwch yn bendant.

Yn ffodus i ni, mae’r Wasg Porthi Balchder yn ei ffurf buraf yn cilio. Mae’r hysbysebion a gyhoeddent yn aml yn y papurau newydd (yn fynych yng nghanol erthyglau a oedd fel petaent wedi eu hysgrifennu gan newyddiadurwyr staff a fyddai’n gwybod yn well) i’w gweld yn llai aml nag o’r blaen. Ond byddwch yn ofalus. Nid oes angen i neb hysbysebu am gyfraniadau. Os gwelwch rywun yn gwneud, byddwch yn amheus.

Cafflwyr eraill yn y Byd Barddoniaeth

Gan fod gormod o gyfranwyr yn trigo yn y byd barddoniaeth does dim rhyfedd bod y blingwyr yn ymddangos. Mae digon o bobl sy’n cymryd arian oddi ar gyw awduron ac yn cynnig fawr ddim yn ei le. Yn wyneb achosion cyfreithiol, mae’r flodeugerdd porthi balchder, prif erfyn y blingwr yn y gorffennol, bellach yn diflannu. Er hynny, mae amrywiadau ac addurniadau ar y drefn yn ailgodi yn gyson. Mae’r rhain yn cynnwys cynnig gosod eich barddoniaeth i gerddoriaeth, gan eich lansio ar y llwybr tua’r sêr, darlleniadau o’ch gwaith gan actorion â lleisiau dwfn i’ch helpu i dorri i mewn i’r farchnad radio leol (does dim un) a cheisiadau pellach am arian i gael cofnodau amdanoch mewn cyfeiriaduron rhwymiad-lledr o feirdd y byd. Mae pawb yn ymddangos yn y rhain, gan gynnwys eich ewythr. Mae ffug gystadlaethau lle nad oes unrhyw gysylltiad rhwng ffïoedd ymgeisio a’r gwobrau terfynol (neu lle nad yw’r cyfryw wobrau yn bod) a lle mae’r cyhoeddiad a hysbysebwyd ’yn cynnwys y darnau buddugol ar ffurf blodeugerdd’ yn aml yn golygu gwario rhagor o arian am recsyn llawn gwaith gwachul. Dylai beirdd edrych yn ofalus iawn ar unrhyw beth sy’n cynnig tystysgrifau wedi eu fframio, sgroliau neu grogluniau engrafiedig. Dylent hefyd ochel rhag awgrymiadau eu bod wedi gwneud yn dda yng Nghystadleuaeth Prif Lenor Talaith Florida (neu rywbeth tebyg) ac wedi eu dyfarnu’n deilwng o dystlythyr mewn llythrennau cain. Fel rheol, cynhelir y seremoni mewn g?yl dridiau yn un o westai drutaf y dalaith. I gael y darn papur rhaid ichi aros am y tri diwrnod cyfan, a chi fydd yn gorfod talu’r bil. Os rhowch gynnig ar gystadleuaeth ryngwladol ddi-ffi, a hysbysebir yn y papurau Sul, peidiwch â synnu gormod os cewch wybod eich bod wedi llwyddo yn y rownd gyntaf - mae pawb yn gwneud hynny. Mae’r twyll yn dechrau gyda’r ail rownd pan fyddant yn dechrau gofyn am arian.

Sut mae canfod y cafflwyr? Newidiant eu henwau a’u cyfeiriadau fel y mynnant. Maent yn eu galw eu hunain yn Sefydliadau, yn Gymdeithasau, yn Llyfrgelloedd, yn Fudiadau Cenedlaethol, yn Urddau. Maent yn swnio mor gredadwy. Os oes gennych unrhyw amheuon, cysylltwch â’r Academi. Nid ydym yn anffaeledig, ond gallwn awgrymu rhai anawsterau y byddai’n well eu hosgoi. Mae gwefan rybuddio wedi ei neilltuo i ddatgelu rhai o’r cynlluniau cafflo a ddefnyddir yn y byd barddoniaeth. Ewch i windpub.org/literary.scams/ilp.htm i gael darlun cyflawn. Yn y byd barddoniaeth, prin yw’r hysbysebion dilys am gyfraniadau. Os bydd unrhyw un yn gofyn ichi am arian, peidiwch â gwneud dim ag ef. Nid dyna sut y dylid gwneud pethau.

Ymddangosodd rhan o’r eitem hon yn gynharach yng nghyfraniad Peter Finch i gyhoeddiad blynyddol Macmillan, The Writer’s Handbook, golygydd Barry Turner. Mae’r Llawlyfr hwn yn hanfodol i bob llenor sydd o ddifrif. Archebwch eich copi yma.