Cystadleuaeth Academi - Lingo Newydd
Mae’r Academi a’r cylchgrawn i ddysgwyr, Lingo Newydd wedi lansio Cystadleuaeth Academi / Lingo Newydd i ddysgwyr ysgrifennu stori fer yn y Gymraeg. Felly ewch ati i roi eich syniadau creadigol ar bapur am y cyfle i ennill. Gofynnir i chi ysgrifennu stori fer yn Gymraeg ac mae’n agored i ddysgwyr o bob safon a phrofiad. Cewch gyflwyno cynifer o straeon ag y dymunwch, ac nid oes ffi cystadlu. Cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 neu post@academi.org am ragor o wybodaeth ac i gael ffurflen gais.
Dyddiad Cau: 1 Mawrth 2007
Beirniad: Fflur Dafydd
Gwobrau:
Gwobr ariannol o £50
Tanysgrifiad blwyddyn i Golwg a Taliesin
£30 i’w wario ar lyfrau Gwasg Gomer
Aelodaeth blwyddyn i’r Academi
Cyhoeddir y stori fuddugol yng nghylchgrawn Lingo Newydd ac ar wefan yr Academi
Fflur Dafydd- Y Beirniad

Bardd ac awdur rhyddiaith a dramâu. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Lliwiau Liw Nos (Y Lolfa) yn 2005. Enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006 am y gyfrol Atyniad (Y Lolfa).Enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd ym 1999 am ei chyfrol Y Gwir am Gelwydd. Mae hi wedi ysgrifennu ffilmiau byrion a dramâu. Hi yw uwch-olygydd y cylchgrawn Tu Chwith ac mae hi’n golofnydd wythnosol i’r Western Mail. Wedi lansio ei halbwm cyntaf, Coch am weddill fy Oes, mae Fflur hefyd yn gantores ac yn teithio o amgylch Ewrop gyda’i llenyddiaeth a’i cherddoriaeth.


