List of Writers - Further information
Ffurflen gystadlu
CYSTADLEUAETH FARDDONI R.S.THOMAS
ADRAN GYMRAEG Dydd Sadwrn 19 GORFFENNAF 2008
Gwobr: Gwerth can punto docynnau llyfrau (Noddir hon gan Cyngor Llyfrau)
Enw (mewn priflythrennau) …….……………………………………..
Cyfeiriad…………………………………………
……………………………………………
Cod post……………….Ffôn………………….
Ebost……………………………………………
Amser cychwyn y gystadleuaeth – 2 p.m yn Eglwys Mihangel Sant, Eglwysfach, SY20 8SX
Hoffwn neilltuo cyfnod o 5 munud i ddarllen fy marddoniaeth @ £5.00. Nodwch pryd yn ystod y prynhawn sydd well gennych
…………………………………………………
Amgaeaf siec sy’n daladwy i Apel Aps Eglwys Mihangel Sant.
Dylid postio bob cais i Mrs Joy Neal, Llwyncelyn, Glandyfi, Machynlleth, SY20 8SS.
Os am dderbyn cadarnhad am archeb, dylid amgau amlen hunan gyfeiriad a stamp.
Beirniaid - Yr Athro G.A. Williams a’r Parch. Rhidian Jones Amodau
Termau ac Amodau
1. Caniateir 5 munud i bob bardd ddarllen eu gwaith. Nid oes raid i unrhyw fardd ddefnyddio’r cwbl o’r amser penodedig.
2. Defnyddir oriawr bwrpasol i amseru bob perfformiad ac ystyrir y bydd pob perfformiad yn cychwyn y munud y bydd bardd yn mynd i’r llwyfan.
3. Fe roddir rhybudd tawel pan nad oes ond 30 eiliad ar ol o’r amser perfformio.
4. Nid oes rhaid i unrhyw fardd ddefnyddio’r holl amser a roddir ond fe ofynnir iddynt gofio fod unrhyw gyflwyniad neu esboniad yn rhan o’r pum munud a roddir iddynt.
5. Fe ddywedir yn hyglyw wrth bob bardd pan fydd yr amser wedi mynd heibio.
6. Rhaid i bob bardd berfformio yn Gymraeg gerddi o’i heiddo ei hun. Gall y cerddi fod yn rhai cyhoeddiedig neu anghyhoeddiedig ond mae’n rhaid iddynt fod yn waith gwreiddiol y bardd.
7. Y wobr fydd gwerth can punt of docynnau llyfrau(rhodd gan y Cyngor Llyfrau Cymraeg sydd yn noddi’r gystadleuaeth). Nid oes unrhyw wobr ariannol arall ar gael.
8.Bydd y beirniaid yn barnu yn ôl safon y gwaith a safon y perfformiad a bydd eu penderfyniad yn un terfynol.
Y mae croeso i chwi gysylltu am fwy o fanylion ar 01654 781203 neu joyneal@btinternet.com
Etifeddiaeth Barhaol R.S.Thomas
Ganwyd R.S.Thomas yn 1913 a bu farw yn 2000. Roedd yn berson plwyf nodedig o anghonfensiynol ond yn ddyn a garai fywyd a’i genedl. Awen eifarddoniaeth,heb os ac onibai,oedd y wlad a’r bobl o’i gwmpas.
Bu’n ficer Eglwys Mihangel Sant,Eglwysfach o 1954 i 1967 a bu hwn yn un o’i gyfnodau barddol mwyaf toreithiog yn ogystal.
Enillodd Byron Rogers wobr James Tait Black am ei fywgraffiad o R.S. a gwnaed y llyfr yn ffilm gan y BBC yn 2007.Cynyddodd hyn ddiddordeb pobl
yn R.S.Thomas,y bardd a’r gwladgarwr,ac yn sgil y diddordeb hwn,penderfynodd y plwyfolion gynnal Gwyl R.S.Thomas yn yr eglwys ar 19 a 20 Gorffennaf eleni. Gosodir plac er cof am R.S. ym mhorth yr Eglwys , a chynhelir Ffair Lyfrau yn yr Ystafell Haearn.
Rhennir yr wyl yn dair rhan.
Cynhelir rownd derfynol cystadleuaeth farddol i ysgolion am 11.a.m. dydd Sadwrn 19 Gorffennaf. Noddir y gystadleuaeth hon gan Y Lolfa. Bydd y gystadleuaeth farddoniaeth Gymraeg yn cychwyn am 2.p.m. ar 19 Gorffennaf. Noddir hon gan Y Cyngor Llyfrau Cymraeg a’r wobr fydd gwerth can punt o docynnau llyfrau.
Rheswm arall dros gynnal yr wŷl yw angen yr eglwys i godi arian i adnewyddu tô’r aps. Ychwanegwyd yr aps yn 1913 ond , yn gyffredinol, ystyrir bod Eglwys Mihangel Sant yn enghraifft brin o eglwys o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n dal yn berchen ar lawer o nodweddion eglwysi ei chyfnod. Dyna paham y cofrestrwyd yr eglwys gan CADW.


