Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008

Deg awdur, deng mil o bunnoedd.
Mae’r frwydr ar ddechrau.

 Llyfr y Flwyddyn 2008

Cyhoeddwyd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008 nos Fercher 12 Mawrth 2008 fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr. Roedd y gynulleidfa yn nigwyddiadau’r cyhoeddi, yn yr Atrium yng Nghaerdydd ac yn Llyfrgell Wrecsam, ymhlith y cyntaf i glywed pa 10 llyfr yw’r goreuon ymhlith yr holl rai cymwys a gyhoeddwyd yn 2007 yn nhyb y beirniaid Siân Thomas, Huw Meirion Edwards ac Aled Islwyn.

Y mae yma gasgliad diddorol o gyfrolau ar y Rhestr Hir eleni, gyda’r hen a’r ifanc, y newydd-ddyfodiaid a’r mwy profiadol yn mynnu’u lle.

Heb os y mae nofelau’n gadarn iawn ar y rhestr eleni. Ceir nofelau gan ddau gyn-enillydd y wobr, sef Llwyd Owen a Caryl Lewis, yn ogystal â nofelau Elin Llwyd Morgan, Gareth Miles ac Enillydd Gwobr Daniel Owen y llynedd, Tony Bianchi.

Er amlygrwydd y nofelau ar y rhestr mae dwy gyfrol o farddoniaeth wedi sicrhau’u lle ar y Rhestr Hir eleni hefyd, sef casgliadau’r Prifeirdd, Ceri Wyn Jones ac Iwan Llwyd. Ceir hefyd astudiaeth o hanes Plaid Cymru gan Richard Wyn Jones, yn ogystal â chofiant i un o gymeriadau mwyaf deniadol a dylanwadol gwleidyddiaeth Cymru gan Gwyn Jenkins ac ail gyfrol yng Nghyfres Hanes yr Eisteddfod Genedlaethol gan Alan Llwyd.

Dywed Siân Thomas, Cadeirydd panel y beirniaid Cymraeg: “Er taw ein nod oedd dewis y llyfrau mwyaf teilwng, yn ein barn ni, yn hytrach na sicrhau cynrychiolaeth o wahanol fathau o lenyddiaeth, braf dweud fod cryn amrywiaeth yn perthyn i’r Rhestr Hir eleni – pum nofel, tair astudiaeth wahanol iawn i’w gilydd, a dwy gyfrol o farddoniaeth. ”

Cyhoeddir y Rhestr Fer o 3 cyfrol Gymraeg a 3 cyfrol Saesneg yng Ng?yl y Gelli ar 26 Mai. Gwobrwyir £10,000 yr un i’r ddau enillydd, yn ogystal â £1,000 yr un i’r pedwar arall a ddaeth yn agos at y brig, mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd ar 1 Gorffennaf 2008.

Gweinyddir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan Academi, gyda nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cefnogir digwyddiadau Diwrnod y Llyfr gan Gyngor Llyfrau Cymru.

RHESTR HIR LLYFR Y FLWYDDYN 2008

Tony Bianchi, Pryfeta (Y Lolfa)
Gwyn Jenkins, Prif Weinidog Answyddogol Cymru (Y Lolfa)
Ceri Wyn Jones, Dauwynebog (Gomer)
Richard Wyn Jones, Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Plaid Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)
Caryl Lewis, Y Gemydd (Y Lolfa)
Alan Llwyd, Blynyddoedd y Locustiaid (Cyhoeddiadau Barddas)
Iwan Llwyd, Hanner Cant (Gwasg Taf)
Gareth Miles, Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel (Gwasg Carreg Gwalch)
Elin Llwyd Morgan, Mae Llygaid gan y Lleuad (Y Lolfa)
Llwyd Owen, Yr Ergyd Olaf (Y Lolfa)

Yr awduron ar y Rhestr Hir Saesneg yw Trezza Azzopardi, Kitty Harri, Malcolm Pryce, Tom Bullough, Robert Lewis, Nia Wyn, John Barnie, Carys Davies, Dannie Abse a Tessa Hadley.