Llyfr y Flwyddyn 2008

Cyhoeddi’r Rhestr Fer yng Ngŵyl y Gelli

Llyfr y Flwyddyn 2008

A hoffech chi fod ymhlith y cyntaf i glywed pwy sydd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2008?

Nos Lun 26 Mai 2008, bydd yr Academi yn cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2008 o dair cyfrol Gymraeg a thair cyfrol Saesneg ar Lwyfan Segovia yng Ngŵyl y Gelli. Bydd y digwyddiad yng nghwmni’r Gweinidog dros dreftadaeth, Rhodri Glyn Thomas.  Cewch glywed beirniadaethau byrion gan y beirniaid Aled Islwyn a Trevor Fishlock a bydd Robin Chapman yn holi’r chwe awdur am eu profiadau wrth greu’r gweithiau dan sylw. Bydd yr Academi’n cynnal sesiwn llofnodi llyfrau a derbyniad gwin ar stondin Llenyddiaeth yng Nghymru i ddilyn.

Bydd y tocynnau, sy’n rhad ac am ddim, ar gael ar gael ddydd Mercher 30 Ebrill o Swyddfa Docynnau Gŵyl y Gelli:
www.hayfestival.com / 0870 9901299

Gweinyddir y wobr gan Academi gyda nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.

Am ragor o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â’r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org