Golwg 360
Gwefan am ddim i lenorion ar Golwg 360

Mae gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg 360 wedi lansio adran newydd a fydd yn rhoi lle amlwg i feirdd, llenorion ac awduron unigol o fewn y gwasanaeth.
Bwriad Lle Pawb yw i gynnig lle ar y we i’r uchod, yn ogystal â grwpiau a chymdeithasau gwirfoddol o bob math, i greu a chynnal gwefan fach i’w hunain. Mae yna gategori ‘Llên’ penodol ac mae Golwg 360 yn ceisio annog cymaint â phosib o unigolion a grwpiau i gymryd mantais o’r cyfle gwych yma i hyrwyddo eu hachos.
Dywedodd Prif Weithredwr Golwg 360, Owain Schiavone, “Mae Golwg 360 yn ddatblygiad arloesol yn yr iaith Gymraeg o ran cynnig gwasanaeth newyddion Cymraeg ar y we. Ond, rydym am iddo fod yn llawer iawn mwy na gwasanaeth newyddion yn unig, ac mae lansio Lle Pawb yn un cam tuag at greu cymuned fyw o fewn y gwasanaeth. Dyma fodd hawdd a chyflym i sicrhau presenoldeb ar y we, a hynny trwy gyfrwng iaith y nefoedd.”
Mae Lle Pawb hefyd yn gyfle gwych o fod yn rhan o wasanaeth newyddion Cymraeg arloesol Golwg 360, sydd erbyn hyn yn cyhoeddi rhwng 30 a 40 o straeon newyddion o bob math bob dydd. Yn ogystal â chaniatáu i feirdd hybu eu proffil a’u newyddion diweddaraf, mae’r adran newydd yn cynnig cyfle i’r straeon mwyaf nodweddiadol ffeindio ei ffordd i brif adrannau newyddion y gwasanaeth. Dywedodd Owain Schiavone, “Rydym wastad yn chwilio am newyddion diddorol i gynnwys yn adran Gelfyddydau Golwg 360. Yn wir, mi fydd yna lawer o bwyslais ar lenyddiaeth dros y misoedd nesaf gyda nifer o brosiectau ar y gweill, gan gynnwys cynnal pleidlais Llyfr y Flwyddyn - Barn y Bobl ar y gwasanaeth.”
Cafodd Lle Pawb ei lansio’n swyddogol ddechrau Chwefror, ac mae modd i chi gofrestru a dechrau creu eich safle yn syth. Cysylltwch â Owain Schiavone ar 01570 423529 neu owainschiavone@golwg.com am unrhyw fanylion pellach.
Cliciwch yma i weld adran Lle Pawb.



