Dathlu'r Miliynfed yn y Gynulleidfa

Academi’n Dathlu’r Miliynfed yn y Gynulleidfa

Carol Ann Duffy, Euthalai Antippas a Gillian Clarke

Croesawodd yr Academi ei miliynfed aelod o gynulleidfa mewn digwyddiad ddydd Sadwrn 20 Mawrth, 2010.

Daeth Euthalia Antippas o Cyncoed, Caerdydd i’r digwyddiad hynod boblogaidd ‘Cyfarfod y Beirdd Llawryfog’ yng ngwesty Dewi Sant yng Nghaerdydd. Bu’r Bardd Llawryfog Carol Ann Duffy a’r Bardd Cenedlaethol Gillian Clarke yn darllen eu gwaith a thrafod y tebygrwydd a’r gwahaniaethau yn eu swyddogaethau fel Bardd Cenedlaethol Cymru a Bardd Llawryfog Prydain.

Dangosodd cofnodion data yr Academi y byddai miliynfed aelod o gynulleidfa’r Academi ers ail-strwythuro ym 1998, yn cyd-daro â’r digwyddiad ‘Cyfarfod y Beirdd Llawryfog’. Wedi cyfri’n fanwl, daeth i’r amlwg mai Euthalia Antippas oedd y miliynfed cyfranogwr/wraig. I nodi’r achlysur, cyflwynodd Cyd-gadeirydd yr Academi Harri Pritchard Jones a Phrif Weithredwr yr Academi Peter Finch dystysgrif a chopi o Wyddoniadur Cymru yr Academi i Euthalia Antippas. Llongyfarchwyd y cyfranogwr lwcus gan y Bardd Llawryfog Carol Ann Duffy a’r Bardd Cenedlaethol Gillian Clarke ac fe dynnwyd llun o Euthalia Antippas gyda’r ddwy ohonynt.

Mae’r Academi’n hynod falch o fod wedi cyrraedd 1,000,000 o bobl trwy amryw o ddigwyddiadau ers ail-strwythuro ym 1998. Mae’r Academi’n trefnu ac yn ariannu digwyddiadau llenyddol megis cyrsiau, cystadlaethau, cynadleddau, teithiau awduron, darlithoedd, cyfnewidiadau tramor, digwyddiadau ar gyfer ysgolion, darlleniadau perfformiadau llenyddol a gwyliau. Ym 1998, enillodd y gymdeithas awduron, Yr Academi Gymreig, fel ag yr oedd hi yr adeg hynny, y cytundeb gan Gyngor Celfyddydau Cymru i sefydlu’r Academi – Yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth.

Dywed Prif Weithredwr yr Academi Peter Finch: “Mae’n gamp cyrraedd miliwn. Mae’n amlwg fod galw mawr ar wasanaethau llenyddol yr Academi – boed yn ddigwyddiadau, gweithdai neu’n ymweliadau gan awduron ag ysgolion.”

Dywed Euthalia Antippas, miliynfed aelod o gynulleida’r Academi: “Rwy’n gefnogwr brwd o’r Academi ac mae’n anrhydedd mai fi yw miliynfed aelod o gynulleidfa’r Academi. Diolch yn fawr i chi am wobr arbennig Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig – rwyf wedi bod eisiau copi ers amser. Rwy’n dymuno pob hwyl i’r Academi yn y dyfodol.”

Mae’r Academi eisoes yn edrych ymlaen at gyrraedd y 1,000,000 nesaf, tros y ddegawd sy’n dod, a hynny trwy ddigwyddiadau llenyddol o bob math.