Y Rhestr Fer
Y Rhestr Fer
Mewn digwyddiad arbennig yng Ngŵyl y Gelli ddydd Sul 6 Mehefin 2010, cyhoeddodd yr Academi deitlau’r chwe chyfrol ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2010.
Nofel, cyfrol o farddoniaeth a llyfr taith – dyna ddewis y beirniaid Cymraeg eleni, John Gwilym Jones, Aled Lewis Evans, a Branwen Gwyn, ar gyfer Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2010.
Y cyfrolau ar y Rhestr Fer Gymraeg yw: Naw Mis gan Caryl Lewis (Y Lolfa); Banerog gan Hywel Griffiths (Y Lolfa); Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw gan John Davies (Y Lolfa).
Dywedodd Branwen Gwyn, un o’r beirniaid ar y panel Cymraeg:
"Nid gorchwyl hawdd oedd dewis a dethol cyfrolau ar gyfer y Rhestr Fer, ond credwn, fel trindod y panel beirniaid, fod ynddi groesdoriad (anfwriadol!) sy'n dangos rhychwant o ddoniau ein hawduron a'n beirdd. Dylem fel Cymry Cymraeg ymfalchïo yn ein llenorion dawnus, a'u hannog a'u cefnogi trwy brynu a gwerthfawrogi eu deunydd. Mae hi wedi bod yn bleser a braint cael cydweithio gyda'r ddau feirniad arall, a hyderaf y bydd y cyhoedd yr un mor frwd â ni am y cyhoeddiadau sydd wedi gwneud cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni yn un gofiadwy dros ben.”
Nofelydd yw Caryl Lewis a gafodd ei magu ger Aberaeron. Graddiodd o Brifysgol Durham cyn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth i i ennill gradd uwch mewn ysgrifennu creadigol. Mae wedi cyhoeddi naw o nofelau, gan gynnwys Martha, Jac a Sianco (Y Lolfa) a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Nofel am ddiflaniad merch yw Naw Mis ac effaith hynny ar ei theulu a’i ffrindiau.
Maged Hywel Griffiths ger Caerfyrddin. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth ac yn ddiweddar mae wedi derbyn Doethuriaeth mewn daearyddiaeth ffisegol. Mae’n darlithio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008 gyda’i gasgliad o gerddi, Stryd Pleser. Banerog yw ei gasgliad cyntaf o gerddi, gyda’r gyfrol yn amrywio o ran pynciau o wleidyddiaeth ac iaith i dirwedd, hanes a phobl Cymru.
Hanesydd Cymreig yw John Davies o Gwm Rhondda. Daeth yn aelod o Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu'n Warden Neuadd Pantycelyn am ddeunaw mlynedd. Mae wedi cyhoeddi nifer fawr o gyfrolau, gan gynnwys ei lyfr enwog Hanes Cymru (1989). Mae’r gyfrol Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw yn cynnwys detholiad o gant o’r llefydd y dylem ymweld â nhw gan yr hanesydd.
Y cyfrolau sydd wedi llwyddo i gyrraedd y Rhestr Fer Saesneg yw Carry Me Home gan Terri Wiltshire; I Spy Pinhole Eye gan Philip Gross; a The Compilation of the Four Branches of the Mabinogi gan Nikolai Tolstoy.
Gwobrwyir £10,000 yr un i’r ddau enillydd – un yn Gymraeg ac un yn Saesneg – yn ogystal â £1,000 i’r pedwar a ddaw yn agos at y brig mewn Seremoni Wobrywo yng Ngwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd, nos Fercher 30 Mehefin 2010, 7.00 pm.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org.



