Panel Ysgoloriaethau Awduron yr Academi
Gwen Lloyd Davies – Cadeirydd y PanelYmgynghorydd llenyddiaeth a chyhoeddi. Bu’n gweithio fel Golygydd Cyhoeddi i Parthian Books yng Ngheredigion. Ar hyn o bryd mae’n Olygydd Saesneg i wasg Y Lolfa. Mae hi wedi gwethio gyda sawl awdur adnabyddus o Gymru, gan gynnwys Catherine Merriman, Jo Mazelis, Robin Llywelyn a John Sam Jones. Ei harbenigedd yw rhyddiath creadigol a llenyddiaeth plant. Mae’n byw yn Aberystwyth.
Idris ReynoldsBardd, llyfrgellydd a thiwtor. Mae wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith, ynghyd â nifer o wobrwyon eraill. Mae’n cyfrannu cerddi ac adolygiadau yn gyson at Barddas. Mae wedi cyhoeddi un gyfrol o farddoniaeth ac yn cystadlu’n gyson yn yr ornest lenyddol, Talwrn y Beirdd. Mae’n byw ym Mrynhoffnant, Ceredigion.
Mae’r bardd a’r nofelydd Catherine Fisher yn dod o Gasnewydd, Gwent. Enillodd wobr Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd a Gwobr Cyngor y Celfyddydau ar gyfer Awduron Ifainc. Mae wedi cyhoeddi pedwar casgliad o farddoniaeth. Mae Catherine hefyd yn adnabyddus fel nofelydd i blant a phobl ifainc, a’i gwaith yn aml â thema ffantasi neu wyddonias. Mae ei llyfrau’n cynnwys Darkhenge, trioleg The Snow-Walker, The Candleman a phedair rhan Book of the Crow. Cyrhaeddodd ei gwaith The Oracle Trilogy Restr Fer gwobr Whitbread 2004 ac mae wedi gwerthu’n dda’n ryngwladol. Enillodd Corbenic, nofel am chwedl y greal, wobr y Mythopoeic Society of America’s Children Fiction Award yn 2007. Roedd ei nofel diweddaraf Incarceron ymhlith Rhestr Llyfrau Plant y Flwyddyn yn y Times yn 2007.
Amanda HopkinsonCyfarwyddwr Canolfan Brydeinig Cyfieithu Llenyddiaeth ym Mhrifysgol East Anglia, Norwich. Mae ei chyfieithiadau diweddaraf o weithiau Ricardo Piglia Money to Burn (Granta, 2003) a Paulo Coelho Devil and Miss Prym (HarperCollins, 2002). Ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu A History of Mexican Photography (Reaktion Books, i ddod).
Kathryn GrayGanwyd yng Nghaerffili yn 1973 ac fe’i magwyd yn Abertawe. Enillodd Wobr Eric Gregory yn 2001 ac enwebwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth The Never–Never ar gyfer gwobr T S Eliot a’r Forward Prize am gasgliad cyntaf yn 2004. Mae’n feirniad llenyddol cyhoeddiedig ac ar hyn o bryd yn ymgynghorydd barddoniaeth ar gyfer cylchgrawn New Welsh Review.



