Placiau Awduron
Ddiwedd 2008 gwobrwywyd yr Academi â Dyfarniad Cwmni Disglair Cyngor Celfyddydau Cymru, a sicrhaodd nawdd i ddatblygu cynllun 'twristiaeth lenyddol'. Dau ran o'r cynllun yw'n cyfres o Wibdeithiau Llenyddol a hefyd ein bwriad i roi mwy o sylw i'r placiau sy'n coffau llenorion amlwg Cymru.
Comisiynwyd Tony Bianchi i wneud gwaith ymchwil ar ran yr Academi, i greu rhestr o rai o'r placiau sydd yn bodoli eisoes i goffau llenorion y wlad. Yma gallwch ddarllen a gweld ffrwyth yr ymchwil. Creda'r Academi fod placiau o'r fath yn fodd o atgoffa cymunedau ledled Cymru am y beirdd a'r llenorion a fagwyd yn yr ardal honno.
Os y gwyddoch am unrhyw blac arall ac os hoffech gyfrannu at y rhestr, gallwch gysylltu â'r Academi: 029 2047 2266 neu post@academi.org
Rhowch glic ar yr enwau isod i ddarllen mwy am y llenorion a'u placiau.




Saunders Lewis
Kate Roberts
Waldo Williams