T. Llew Jones

Thomas Llewelyn Jones (1915- 2009)
 
T. Llew Jones, hawlfraint: Marion Phillips T. Llew Jones, hawlfraint: Cyngor Llyfrau Cymru 

Cofeb yn dynodi man geni T. Llew Jones, 1 Bwlch Melyn, Pentre-cwrt, Ceredigion / Llun o T. Llew Jones. Hawlfraint: Cyngor Llyfrau Cymru 

 

Bardd ac awdur llyfrau i blant. Fe'i ganed ym Mhentre-cwrt, Caerf.; bu'n athro mewn ysgolion cynradd yn sir Aberteifi nes mynd yn llenor amser-llawn. Trwy briodi â merch un o deulu'r Cilie, daeth yn aelod o'r cylch beirdd hwnnw ac yn arweinydd iddo wedi marw Alun Jeremiah Jones. Cydnabyddir T. Llew Jones yn un o feistri'r canu caeth ac y mae wedi bod yn Llywydd y Gymdeithas Gerdd Dafod o'i chychwyn yn 1976, ond y mae'n fardd telynegol yn y mesurau rhydd hefyd, ac y mae ei gerddi i blant yn arbennig o boblogaidd. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1958 ac yn 1959.

Y mae ymhlith y mwyaf toreithiog o lenorion Cymraeg ac yn awdur dros hanner cant o lyfrau. Y mae ei gyfrolau o gerddi yn cynnwys Penillion y Plant (1965), Sŵn y Malu (1967), Cerddi Newydd i Blant o Bob Oed (1973) a Canu'n Iach (1987). Golygodd sawl blodeugerdd yn cynnwys gwaith Bois y Cilie a Cerddi '79 (1979) a tharfu'r dyfroedd trwy ladd ar y 'beirdd tywyll' yn ei ragair.

Y mae wedi gwneud cyfraniad pwysig fel awdur llyfrau poblogaidd i blant, cyfraniad a gydnabuwyd gan Brifysgol Cymru yn 1977 pan roddwyd iddo radd anrhydeddus. Y mae rhai o'i nofelau yn adrodd hanes cymeriadau megis Siôn Cwilt, Barti Ddu (Bartholomew Roberts) a Thwm Siôn Cati (Thomas Jones; fl. 1530-1609), a rhai yn nofelau ditectif. Y mae'r rhain yn cynnwys Trysor Plas y Wernen (1958), Trysor y Morladron (1960), Y Ffordd Beryglus (1963), Ymysg Lladron (1965), Dial o'r Diwedd (1968), Corn, Pistol a Chwip (1969), Yr Ergyd Farwol (1969), Y Corff ar y Traeth (1970), Barti Ddu (1973), Un Noson Dywyll (1973), Cri'r Dylluan (1974), Cyfrinach y Lludw (1974), Arswyd y Byd (1975), Tân ar y Comin (1975), Ysbryd Plas Nant Esgob (1976), Dirgelwch yr Ogof (1977), Lawr ar Lan y Môr (1977) a Lleuad yn Olau (1989). Yn eu tro enillodd Tân ar y Comin a Lleuad yn Olau wobr Tir na n-Og iddo.

Ceir manylion pellach yn y gyfrol o ysgrifau ar fywyd a gwaith T. Llew Jones a olygwyd gan Gwynn ap Gwilym a Richard H. Lewis (1982); ceir llyfryddiaeth yn astudiaeth Siân Teifi: Cyfaredd y Cyfarwydd (1982).

Bu farw T. Llew Jones ar 9 Ionawr 2009.

Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).