Twm o'r Nant (Thomas Edwards)

Thomas Edwards (Twm o'r Nant; 1739-1810)

Twm o'r Nant

 Twm o'r Nant, o'r gyfrol 'Ceinion Llenyddiaeth Gymreig' gan Owen Jones, 1876 

 

Fe'i ganed ym Mhenporchell Isaf, Llanefydd, Dinb., i deulu pur dlawd. Cafodd ei fagu yn Nant Isaf, Henllan, ac fe'i hadwaenid wrth ei lysenw wedi hynny. Ychydig o wythnosau o ysgol a gafodd ond yno darganfu'r pleser o ddarllen. Wedyn, fel ei dad o'i flaen, aeth yn was fferm. Cyflwynwyd ef i'r traddodiad barddol gan ei ffrindiau yn ystod eu horiau hamdden, a dechreuodd lunio ac actio mewn anterliwtiau. Wedi iddo briodi yn 1763, dechreuodd ennill ei fywoliaeth yn Ninbych fel cariwr coed, ond parhaodd i lenydda a chanlyn anterliwt pan oedd gwaith yn brin. Ffoes o afael y gyfraith i dde Cymru am gyfnod oherwydd ei ddyledion, a bu ei deulu'n cadw tafarn a gofalu am dollborth yn Llandeilo, Caerf. Yn ystod ei henaint, daeth yn gyfeillgar â Thomas Charles, yr hwn a'i hedmygai'n fawr. Yn ogystal â hunangofiant a gyhoeddwyd yn 1805, ysgrifennodd Twm o'r Nant nifer o ganeuon, y rhan fwyaf ohonynt yn dal mewn llawysgrif. Yr oedd y caneuon hyn yn gymysgedd o'r duwiol a'r anllad. Cyhoeddwyd llawer ohonynt mewn llyfrynnau a'u canu gan faledwyr mewn ffeiriau a marchnadoedd. Cyhoeddwyd casgliad sylweddol ohonynt yn Gardd o Gerddi yn 1790.

Fel lluniwr anterliwtiau y cofir am Dwm o'r Nant heddiw. Ymhlith y gweithiau hyn, y canlynol yw'r pwysicaf: Y Farddoneg Fabilonaidd (1768), Cyfoeth a Thlodi (1768), Tri Chydymaith Dyn (1769), Pedair Colofn Gwladwriaeth (1786), Pleser a Gofid (1787), Tri Chryfion Byd (1789) a Bannau y Byd (1808); daethpwyd o hyd i un arall, sef Cybydd-dod ac Oferedd (1870) mewn llawysgrif wedi ei farw. Y mae'r anterliwtiau cynnar yn llawn maswedd ac yn ysgafnach eu tôn a'u deunydd na'i waith diweddarach, sy'n adlewyrchu deallusrwydd miniog, dychymyg toreithiog a haenau o fyfyrdod dwys. Y mae ei feistrolaeth rymus ar y Gymraeg a difrifoldeb a doniolwch ei bersonoliaeth wedi sicrhau iddo le fel un o ffigurau pwysicaf y ddrama yng Nghymru rhwng yr Oesoedd Canol a'r ugeinfed ganrif. O ganlyniad i dlodi traddodiad y ddrama Gymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw fe'i canmolwyd yn ormodol, a'i alw yn 'Cambrian Shakespeare'. Serch hynny, y mae'n haeddu cael ei gofio fel awdur a oedd yn ddigon eofn i ymosod ar anghyfiawnderau ei ddydd mewn iaith ddeniadol o gyhyrog.

Ceir detholiad o weithiau Twm o'r Nant yng Nghyfres y Fil (2 gyf., 1909 a 1910); golygwyd ei hunangofiant a'i lythyrau gan Glyn Ashton yn 1948. Ceir trafodaethau at ei waith yn y monograff gan Wyn Griffith yn y gyfres Gŵyl Dewi (1953), yn ysgrif Kate Roberts yn Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (gol. Dyfnallt Morgan, 1966), a'r un gan Saunders Lewis yn Meistri'r Canrifoedd (gol. R. Geraint Gruffydd, 1973).

Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997). 

Bras amcan o leoliad y plac a ddangosir ar y map is-law