Pwy yw Pwy
Prif Weithredwr yr Academi: Peter FinchAwdur, bardd a mentrwr llenyddol. Bu’n rheoli Oriel, siop lyfrau Cyngor Celfyddydau Cymru, am nifer o flynyddoedd cyn ymuno â’r Academi. Awdur nifer o gyfrolau, gan gynnwys Food (Seren), How to Publish Yourself (A&B) a Real Cardiff (Seren).
Dirprwy: Lleucu SiencynYn wreiddiol o Dalgarreg, Sir Aberteifi. Graddiodd o’r Coleg Newydd, Rhydychen gydag anrhydedd yn Saesneg. Wedi treulio cyfnodau’n crwydro cyfandir De America, bu’n gweithio fel ymchwilydd a sgriptiwr gyda chwmnïau teledu Cymraeg. Cyn ymuno â’r Academi yn 2002, roedd hi’n Swyddog Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Swyddog Prosiectau: Bob MoleGraddiodd Bob Mole o Goleg Fitzwilliam, Caergrawnt a hyfforddi’n yn gyfrifydd gyda chwmni cyfrifyddion Peat Marwick Mitchell. Ymunodd â Chymdeithas Celfyddydau De–ddwyrain Cymru yng Nghwmbrân yn 1977. Yn 1998 ymunodd â’r Academi ar ei newydd wedd fel Swyddog Prosiectau, yn gweinyddu’r cynlluniau nawdd llenyddol. Yn ogystal, mae Bob yn gweithio fel tiwtor preifat ac yn arddwr proffesiynol rhan-amser. Ysgrifennodd dair cyfrol ar hanes chwaraeon lleol, ac mae drws nesa’ i Moliere ym mynegai Llyfrgell Casnewydd. Mae’n dysgu Cymraeg.
Gogleddwraig yw Hollie – o Wigan yn Swydd Gaerhirfryn. Cafodd ei denu gan y môr i fae Ceredigion ac aeth i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn Aberystwyth, gan raddio yn 2005. Yna symudodd i Gaerdydd i astudio cwrs ôl-radd mewn Rheoli’r Celfyddydau yn y Coleg Cerdd a Drama. Ymunodd â’r Academi yn Ebrill 2006.
Swyddog Llenyddiaeth: Sian Teleri DaviesYn wreiddiol o Ruthun, Dyffryn Clwyd, lle bu’n gweithio am gyfnodau yn Elfair, siop lyfrau a chrefftau Cymraeg yn y dref. Graddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth gyda Gradd Gyfun Gymraeg a Hanes Cymru. Wedi cyfnod byr yn gweithio âg Urdd Gobaith Cymru, ymunodd â’r Academi yn Ionawr 2007.
Rheolwr Busnes: Elinor RobsonYn wreiddiol o Landysul, Ceredigion. Graddiodd yn y Ffrangeg o Brifysgol Sussex, Brighton, a threuliodd flwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Toulouse le Mirail, Ffrainc. Ennillodd MA mewn Llenyddiaeth Ewropeaidd o Brifysgol Caerdydd. Wedi gweithio i’r Cynulliad ac fel Cynorthwy-ydd Llyfrgell ym Mhrifysgol Caerdydd, ymunodd â’r Academi yn 2004.
Cynorthwy-ydd Personol i’r Prif Weithredwr: Elin WilliamsPenderfynodd Elin mai ym myd y celfyddydau y perthynai ar o^l cwblhau gradd yn y Gyfraith gyda Chymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yn 2004. Bu hi’n gweithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru cyn ymuno a^’r Academi flwyddyn diwethaf.
Daw Gwen Lasarus yn wreiddiol o Lanfairpwll. Ei dewis cyntaf o yrfa oedd actio, a bu’n gweithio’n gyson ar lwyfannau Cymru ac ar gyfresi teledu S4C. Bu ysgrifennu yn rhan o’i bywyd o oedran cynnar, a dros y blynyddoedd llwyddodd i ysgrifennu sawl darn ar gyfer y llwyfan, ambell sgript deledu a cherdd neu ddwy. Bu’n teithio â sioe o’i cherddi Pan ga’i Funud gyda Llio Silyn yn ystod y tair blynedd diwethaf. Yn haf 2001 cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i bobl ifainc, Sgribls Hogan Flêr (Y Lolfa), ac yn 2004 cyhoeddwyd dilyniant iddi, Snogs a Sgribls Hogan Flêr (Y Lolfa).
Swyddog Llenyddiaeth: Petra BennettFe’i ganwyd ac fe’i magwyd yng Nghaerdydd. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Bryntaf ac Ysgol Gyfun Llanhari. Graddiodd mewn Almaeneg a Llyfrgellyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae’n mwynhau teithio, yn enwedig i Ferlin, wrth ei bodd yn siarad Almaeneg ac yn ddarllenwraig frwd. Mae wrth ei bodd yn mynd i’r opera.
Swyddog Cyfrifon: Mary Cassar Fe’i ganwyd a’i magwyd yng Nghaerdydd. Wedi dros degawd yn gweithio gydag amryw gwmnïau cyfrifion, dychwelodd i addysg llawn amser i ennill gradd mewn Astudiaethau Busnes. Parhaoedd gyda’i haddysg, gan gwblhau cwrs Cymdeithas Technegwyr Cyfrifion (Association of Accounting Technicians) yn 2005. Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer Arholiadau Galwedigaethol Cymdeithas Cyfrifyddion Ardystiedig.
Cafodd Bronwen ei magu yng Ngwlad yr Haf, ond mae teulu ei thad yn hanu o Gaerdydd. Enillodd radd mewn Archaeoleg ac Anthropoleg o Goleg Fitzwilliam, Caergrawnt, yna aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio MA mewn Cynhanes Ewropeaidd. Ar ôl dysgu Lefel A am ychydig flynyddoedd, dychwelodd i Gaerdydd i astudio ar gyfer PhD mewn Oes Neolithig hwyr ac Efydd cynnar yng ngorllewin Prydain. Fe’i cyhoeddir am y tro cyntaf yn y gyfrol ’Prehistoric Journeys’ yn ystod haf 2007.
Swyddog Gweinyddol: Alys RookYn wreiddiol o Gaerdydd, aeth Alys i’r brifysgol yn Nottingham a graddio mewn Mathemateg a Ffiseg. Daeth yn ôl i Gaerdydd ac ymuno a’r Academi ym mis Ionawr 2007.
Swyddog Maes Gogledd Cymru: Llio Huws
Yn wreiddiol o Fodedern, Ynys Môn, mae Llio bellach yn byw ym Mangor. Wedi graddio mewn Cyfathrebu ym Mhrifysgol Bangor, bu’n gweithio am gyfnod gyda’r Urdd cyn dilyn i weinyddu cwmni theatr Llwyfan Gogledd Cymru. Ymunodd â’r Academi ddiwedd 2007.
Yn wreiddiol o Fodedern, Ynys Môn, mae Llio bellach yn byw ym Mangor. Wedi graddio mewn Cyfathrebu ym Mhrifysgol Bangor, bu’n gweithio am gyfnod gyda’r Urdd cyn dilyn i weinyddu cwmni theatr Llwyfan Gogledd Cymru. Ymunodd â’r Academi ddiwedd 2007.
Swyddog Datblygu Llenyddiaeth y Cymoedd: Louise RichardsGaned yn Windsor, ond symudodd at ei theulu yng Nghymru yn 1995. Wedi cwblhau gradd mewn Dylunio Graffeg a Darlunio yng Ngholeg Celf Exeter a gradd TAR mewn Addysg Ôl-Orfodol, dechreuodd ar yrfa foddhaus gyda llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd ac â Datbygiad Llenyddiaeth a’r Celfyddydau. Ymunodd â’r Academi yn 2007.


