Rhestr o Awduron

EAMES, MANON

16 Clifton Hill, Abertawe SA1 6XQ
Ebost: manon.eames@googlemail.com

Manon EamesYn enedigol o Fangor ond bellach wedi ymgartrefu’n Abertawe, graddiodd Manon o Brifysgol Manceinion ym 1980, gan ddychwelyd i Gymru i weithio fel actores gyda chwmniau Bag and Baggage, Hwyl a Fflag, ac, am flynyddoedd, fel un o sylfaenwyr Theatr Gorllewin Morgannwg, yn teithio led-led Cymru gyda chynyrchiadau llwyddiannus tu hwnt y cwmni megis Jeremeia Jones, Vanessa Drws Nesa, Para ’Mlaen, Dawns y Dodo, Clustiau Mawr Moch Bach, ac ati.  I’r cwmni yma hefyd gyfieithodd hi When the Wind Blows (A’r Gwynt i’r drws bob Bore: Raymond Briggs) a Shirley Valentine (Willy Russell) gan gyd-ysgrifennu gydag aelodau eraill y cwmni y cyfresi Tocyn Diwrnod i HTV ac Atodiad Lliw i Radio Cymru.
 
Ers gadael Theatr Gorllewin Morgannwg mae Manon wedi actio mewn sawl cynhyrchiad theatr, yn cynnwys Equus The Journey of Mary Kelly a A Christmas Carol (Clwyd Theatr Cymru); ar y teledu yn Holby City (BBC) The Bench (BBC) Amdani (Nant) Cowbois ac Injans (Opus) ac yn ddiweddarach, DI Williams yn Pobl y Cwm (BBC); ymddangosodd hefyd yn y ffilmiau Perthyn (Llifon) Streic (BBC) Lois (Eryri) O Little Town of Bethlehem (HTV) Solomon and Gaenor (APT) a Nice Girls (BBC).  Buodd hefyd yn un o gyflwynwyr Y Clwb Garddio (Cenad) am bron i ddegawd.

I deledu mae Manon wedi ysgrifennu Nos Sadwrn Fach (BBC); y gyfres Y Stafell Ddirgel (Llifon); y dair gyfres o Treflan (Alfresco); a buodd yn cyd-ysgrifennu’r gyfres Llafur Cariad (Teliesin). I’r llwyfan, addasodd nofelau Alexander Cordell - y Cordell Triolgy i Clwyd Theatr Cymru, sef  Rape of the Fair Country, Hosts of Rebecca a Song of the Earth, ac mi gyfieithodd Accidental Death of an Anarchist (Damwain a Hap : Dario Fo) ac Art ( Celf : Yasmina Reza) i’r cwmni hefyd.

Ennillodd ei ffilm Eldra (Teliesin) sawl gwobr yn cynnwys 5 gwobr Bafta Cymru 2001, yn eu plith Y Ddrama Orau; Ffilm Orau yng Ngwyl Rhyngwladol Moondance, Colorado 2002; Ffilm Orau Gwyl Ryngwladol Cymru Caerdydd 2001 - gwobr Cynulleidfaoedd Film Four ; FilmFest Kansas City Audience Favourite Foreign Film Award 2003 ; Wurzburg Film Festival 2003 Ffilm Orau.

Ar hyn o bryd mae Manon wedi ysrifennu drama Porth y Byddar cyd-gynhyrchiad rhwng Clwyd Theatr Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru fydd yn cael ei chyflwyno yn Eisteddfod Genedlaethol 2007 ac ar daith led-led Cymru yn yr Hydref 2007.  Mae hi hefyd wrthi yn addasu nofel Emyr Humphreys A Toy Epic i Clwyd Theatr Cymru.

Adolygiadau

Addasiad ardderchog… hir oes i waith Manon Eames
Bethan Mair, Western Mail 24/11/01 (Y Stafell Ddirgel)

An exceptional experience… a massive task – succeeded gloriously
Philip Key, Daily Post 08/03/00 (Cordell Triolgy)

expert adaptation….no superfluous lines… every piece of dialogue is packed with relevance
Bob Roberts, Western Mail 04/11/97 (Rape of the Fair Country)

Ffilm oedd hon yn siarad â’r enaid.....campwaith
Lyn Lewis Dafis, Barn Chwefror 2002 (Eldra)

Campwaith...sgript dyfeisgar... ambell i berl o ddeialog awygrymog yn adlewyrchu cymriad neu sefyllfa’n gynnil a naturiol
Bethan Mair, Wetsern Mail 16/11/02 (Treflan)

Eithriadol
Lyn Lewis Dafis, Barn (Treflan) Ebrill 2002