Rhestr o Awduron
HAF, EURGAIN
Ffôn: 07799 841 522
Ebost: eurgainhaf@btinternet.com
Awdur llyfrau i blant ac oedolion. Ganed a magwyd ym Mhenisarwaun yn Arfon ond mae erbyn hyn wedi ymgartrefu ym Mhontypridd. Addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug a Phrifysgol Cymru Aberystwyth. Wedi cyfnod yn gweithio fel Swyddog y Wasg i S4C mae nawr yn gweithio fel Swyddog y Cyfryngau i elusen Achub y Plant ac yn ysgrifennu yn ei hamser sbâr. Cyhoeddwyd straeon byrion o’i heiddo yn Golwg a Taliesin ac mae hi’n cyfrannu erthyglau ac adolygiadau (theatr) ar gyfer Barn, y Western Mail, Y Cymro, Tu Chwith a chylchgrawn gwylwyr S4C, Sgrîn. Mae’n gyn–enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd (1994) ac Eisteddfod Môn (2002). Enillodd wobr Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru am stori fer, a bu’n llwyddiannus yng nghystadleuaeth stori fer BBC Radio Cymru yn 2004 a chyhoeddwyd y stori fel rhan o’r gyfrol Yn Nes at
Baradwys (Gol. Angharad Dafis).
Enillodd Fedal Ddrama yr Eisteddfod Ryng–Golegol yn 1994 a pherfformiwyd ei drama fer Cadw Oed fel rhan o gynhyrchiad teithiol Sgript Cymru, Drws Arall i’r Coed yn 2005.
Ond diléit pennaf Eurgain yw ysgrifennu storïau i blant. Addaswyd dwy o’i straeon byrion ar gyfer y cyfresi teledu Tud a Len, ac Adfent. Mae hefyd yn cyfrannu straeon byrion i gylchgrawn yr Urdd, Cip yn gyson.
Cyhoeddwyd Fferm Ffion - ei nofel gyntaf i blant gyda Gwasg y Dref Wen fis Mawrth 2005 a dewiswyd y llyfr hwnnw fel un o’r llyfrau gosod ar gyfer cystadleuaeth y Cwis Llyfrau yn 2006. Cyhoeddwyd ei hail nofel Stablau Seren gyda Gwasg y Dref Wen fis Hydref 2006.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Siencyn a Dan Draed (Dref Wen, 2008)
Nerth Bôn Braich (un o saith o awduresau y nofel gywaith hon) (Gwasg y Bwthyn, 2008)
Stablau Seren (Dref Wen, 2006)
Fferm Ffion (Dref Wen, 2005)
Yn Nes at Baradwys – gol. Angharad Dafis (cyfrannwr) (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Chwileniwm – gol. Angharad Price(cyfrannwr) (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2002)



