Rhestr o Awduron

LÉWIS, ROBYN

’Dwyryd’, Rhodfa’r Môr, Nefyn, PWLLHELI, Gwynedd LL53 6EB
Ffôn: 01758 720484

Bwystfilod RheibusLlenor, cyfieithydd a darlithydd. Ph.D., LL.B., B.L. Bargyfreithiwr; cyn–gyfreithiwr; cyn–Ddirprwy Farnwr yn Llys y Goron; cyn-ddarlithydd yn y Gyfraith. Yng Ngorsedd, Y Prif Lenor Robyn Llyn: enillodd y Fedal Ryddiaith ym Mhrifwyl Dyffryn Lliw gyda’i gyfrol Esgid yn Gwasgu. Archdderwydd Cymru, 2002-2005, y Prif Lenor cyntaf i’w ethol i’r swydd.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Awdur tua ugain o gyfrolau Cymraeg / Saesneg / dwyieithog, gan gynnwys tri geiriadur.
Cyhoeddwyd ei waith yn Y Cymro, Y Faner, Barn, Taliesin, Daily Post, Western Mail, Llanw Llyn, Y Drafod (Patagonia), Yr Enfys, Ninnau (Gogledd America), Yr Herald ac eraill.
Bwystfilod Rheibus (Gwasg y Bwthyn)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Yr Archdderwydd Coll (Portread o Pedrog, 1853-1932)
2. Merched, llenyddiaeth a’r gyfraith
3. Hanes Gorsedd y Beirdd a’r Eisteddfod (i oedolion)
4. Darlun o Orsedd y Beirdd (gyda fideo, i blant ysgol).

Oedran y gynulleidfa: Oedolion (gan gynnwys 6ed dosbarth) / plant ysgol iau (gyda fideo)