Rhestr o Awduron

SALISBURY, EURIG

Eurig SalisburyPrifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006.  Cafodd Eurig ei eni yng Nghaerdydd ond symudodd y teulu i Langynog, ger Caerfyrddin, pan oedd yn chwech oed.  Yn 13 oed dysgodd ei hun i gynganeddu gyda chymorth Clywed Cynghanedd gan Myrddin ap Dafydd ac mae wedi ennill nifer o wahanol wobrwyon mewn eisteddfodau bach a mawr, o gadeiriau’r ifanc yn Llambed i’r englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2005, ynghyd â chadeiriau bychain, gan gynnwys tair o gadeiriau’r Eisteddfod Rhyng-golegol.  Bu Eurig yn un o’r beirdd ifanc ar y daith Crap ar Farddoni 2006 ynghyd â Catrin Dafydd, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog, a Iwan Rhys.  Cyhoeddwyd y cerddi hyn mewn detholiad o’r un enw.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Crap ar Farddoni (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)

Chwilio (6)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z