Rhestr o Awduron
WALTERS, HUW
Yn llyfryddwr ac yn llyfrgellydd, mae’r Dr Huw Walters yn Bennaeth Uned Llyfryddiaeth Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Fe’i ganwyd yn Nyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin, a’i addysgu ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Enillodd radd doethur ym 1985 am astudiaeth o draddodiad llenyddol Dyffryn Aman. Cyhoeddwyd y gwaith ym 1987 ac enillodd dair o wobrau llenyddol: Cyngor Celfyddydau Cymru, Gwobr Goffa Ellis Griffith a Buddged Mrs L W Davies. Dyfarnodd y Llyfrgell Genedlaethol Gymrodoriaeth Maxwell Fraser iddo yn 2000 ac fe’i hetholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas yr Hynafiaethwyr, Llundain (F.S.A.) yn 2001. Cyhoeddodd lyfryddiaethau o weithiau cyhoeddedig rhai o’n prif lenorion ac ysgolheigion, yn ogystal â dwy lyfryddiaeth fawr o gynnyrch y wasg gyfnodol Gymraeg a Chymreig rhwng 1735 a 1900. Y mae hefyd wedi cyhoeddi’n helaeth ar ddiwylliant Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymetheg a chynnyrch ei gwasg gyfnodol.
Detholiad o gyhoeddiadau:
Erwau’r Glo (Christopher Davies, 1976)
Brinli: Cyfreithiwr, Bardd, Archdderwydd, ar y cyd â W.Rhys Nicholas (Gwasg John Penry, 1981)
John Morris–Jones, 1864–1929: Llyfryddiaeth Anodiadol (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1987)
Dyffryn Aman ’Slawer Dydd (Gwasg Gomer, 1987)
Canu’r Pwll a’r Pulpud (Cyhoeddiadau Barddas, 1987)
Y Wasg Gyfnodol Gymreig, 1735-1900 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1987)
Llyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig 1735-1850 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1996)
Llyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig, 1851-1900 (Llyfrgell Genedlaethol Gymru, 2003)
Cynnwrf Canrif: Agweddau ar Ddiwylliant Gwerin (Cyhoeddiadau Barddas, 2004)


