Rhestr o Awduron
JOHN DAVIES
Brodor o Gwm Rhondda yw John Davies. Fe’i haddysgwyd mewn ysgolion yn Nhreorci, Bwlch-llan a Thregaron ac yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Bu’n addysgu yng Ngholegau Prifysgol Abertawe ac Aberystwyth a bu am ddeunaw mlynedd yn Warden Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae Cardiff and the Marquesses of Bute, Hanes Cymru (Penguin, 1992), A History of Wales, Broadcasting and the BBC in Wales, The Making of Wales, The Celts a Cardiff: a Pocket Guide. Ef yw golygydd ymgynghorol Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig ac mae hefyd yn un o’r cyd-olygyddion. Yn 1997, ef oedd y prif siaradwr yng nghyfarfod agoriadol Cymdeithas Gogledd America er Astudio Hanes a Diwylliant Cymru. Mae wedi darlledu’n helaeth, yn enwedig ar destunau hanesyddol.
Daw ei wraig o Flaenau Gwent ac mae ganddynt ddwy ferch a dau fab. Mae’n byw yn Grangetown, ond yn teithio’n ôl ac ymlaen yn fynych rhwng Caerdydd a’i ardd yng nghefn gwlad Ceredigion. Ef yw golygydd cyffredinol Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig.



