Rhestr o Awduron

ELFYN, MENNA

Cysgod y Graig, Stryd y Gwynt, Llandysul, SA44 4BH
e–bost: Menna@elfyn.fsnet.co.uk
Gwefan: www.mennaelfyn.co.uk

Menna ElfynBardd, dramodydd ac awdur amser llawn. Cyhoeddodd wyth cyfrol o farddoniaeth ac enillodd sawl gwobr gan Gyngor y Celfyddydau a’r Eisteddfod Genedlaethol amdanynt. Lluniodd bum drama lwyfan ac addasodd dwy ohonynt ar gyfer S4C. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu’n cydweithio gyda chyfansoddwyr ac yn teithio’r byd yn darllen ei barddoniaeth mewn gwyliau llenyddol amrywiol.  Yn 2002 hi oedd Bardd Plant Cymru.  Erbyn hyn hi yw’r Cyfarwyddwr ysgrifennu ar gyfer y cwrs MA mewn ysgrifennu creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Enillodd Menna un o Ddyfarniadau Cymru Greadigol 2007-08 i archwilio i’r agweddau gwahanol o gwsg a’r 80 dull gwahanol a ddefnyddir ar hyn o bryd i’w archwilio’n wyddonol.

Detholiad o gyhoeddiadau:
Eucalyptus (Gomer, 1999)
Cell Angel (Bloodaxe, 1996)
Cusan Dyn Dall (Bloodaxe, 2001)
Madfall ar y Mur (Gwasg Gomer, 1998)
Perffaith Nam (Gwasg Gomer, 2005)
Er Dy Fod (Gwasg Gomer, 2007)
Perffaith Nam/Perfect Blemish, New & Selected Poems 1995-1997, Dau Ddetholiad a Cherddi Newydd 1995-2007 (Bloodaxe, 2007)

Perfect Blemish/Perffaith NamCliciwch ar y clawr i brynu copi

 "Elfyn is a poet of healing…both compassionate and celebratory.  Like a soul doctor she questions and probes, like St Teresa she endures the darkness, but in the end she sings a song which affirms that flawed humanity is indeed perfectible."
Katie Gramich, Planet