Rhestr o Awduron
HUGHES, J. ELWYN
Bryn Ogwen, Bethel, CAERNARFON, Gwynedd LL55 3AA
Ffôn: (01248) 670517
e–bost: johnelwyn@btinternet.com
Awdur, golygydd, ieithydd a hanesydd lleol Dyffryn Ogwen. Ganwyd ym Methesda ac addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Ogwen a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Astudiaethau Celtaidd ac ennill gradd MA am ei waith ar Dan Isaac Davies (a gyhoeddwyd dan y teitl Arloeswr Dwyieithedd). Bu’n Bennaeth Adran Gymraeg ei hen ysgol, yna’n Ddirprwy Brifathro ac wedi hynny’n Brifathro’r ysgol. Ym 1987, penodwyd ef yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Iaith. Bellach, mae’n Ymgynghorydd Iaith hunangyflogedig. Ef yw Golygydd Cyffredinol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfodau Cenedlaethol, ac awdur un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd yn yr iaith Gymraeg, Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Moliannwn y Bardd o Fethesda (Y Bala, 1978)
Englynion Beddau Dyffryn Ogwen (Gomer, 1979)
Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg (Gomer, 1998)
Gair i Glaf: An English–Welsh Phrasebook for Health Care Professionals (Caernarfon, 1999)
Geiriau’r Newyddion / News-Speak 1, 2, 3, 4 (Llangefni, 1995, Caernarfon, 1996, 1997, 1999)
Byd a Bywyd Caradog Pritchard (Barddas, 2005)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Hiwmor yn ein llên
2. Rhamant iaith
3. Crefft Cyfieithu - Gweithdy Iaith
4. Cefndir Caradog Prichard
5. Taith Lenyddol drwy Ddyffryn Ogwen (2-4 awr mewn bws) gan ganolbwyntio ar gefndir a hanes rhai o lenorion, awduron ac enwogion y dyffryn
Oedran y Gynulleidfa: disgyblion hyn ysgolion uwchradd / oedolion


